On Mon, Apr 21, 2008 at 10:34:45AM +0100, Claire Richards wrote:
>
> "construction plant and equipment" means earth-moving machines which are designed for use in or about the site of building or civil engineering operations and not primarily for the transport of goods or persons
>
> Mae hyn yn awgrymu i mi mai pethau sy'n symud yw "plant" ac "equipment" fel ei gilydd.
Mae'n dibynnu ar y cyd-destun er mae'r ddau yn cyfeirio at rhyw
is-adeiledd sy'n cynnal y gwaith. Mae 'construction plant' yn cyfeirio
at y peiriannau 'mawr' sydd yn rhan o waith adeiladu, naill ai at
offer sefydlog o fewn safle neu beiriannau ar olwynion.
Mae 'physical plant' yn cyfeirio at is-adeiledd o fewn adeilad, fel
system cyflyru awyr, gwresogi, trydan ayyb.
Mae yna ryw ystyr ehangach i 'plant' na dim ond peiriannau am ei fod
yn cynnwys pethau sydd ddim o angenrheidrwydd yn fecanyddol.
|