'geirdâu' yw'r ffurf y bydd Megan, cyn-Brif Weithredwr Cymdeithas
Cyfieithwyr Cymru, yn ei defnyddio. Wn i ddim o ble y cafodd hi afael ar y
ffurf hynod honno!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, March 05, 2008 9:33 AM
Subject: Re: reference
Am syndod. Newydd chwilio archif Trados a darganfod mai dim ond unwaith
'rwyf wedi defnyddio gair am "references", gan ei osgoi gydag ymadroddion
fel "dau eirda" neu "pob geirda". "Geirdaon" a ddefnyddiais yr un tro, heb
fod yn hollol hapus, a dywed Bruce na all fod yn gywir. "Geiriau da"
fyddai'n gywir yn ramadegol, ond yn ymarferol byddai "llythyron geirda" yn
well.
Ydy, mae "tyslythythr" - "testimonial" yn wahanol. Cewch dystlythyr yn
uniongyrchol gan hen gyflogwr, h.y. fe'i rhoddir ichi'ch hun heb ei selio, a
gallwch ei ddarllen eich hun a'i gadw i ddangos i sawl cyflogwr arfaethedig.
'Dw i ddim yn meddwl bod llawer o ddefnydd na choel arnynt ddyddiau hyn, ond
mae gen i rai o eiddo Mam o'r cyfnod cyn y Rhyfel.
Ann
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, March 05, 2008 8:58 AM
Subject: reference
"Geirda" (statws 5) yn unig a roddir gan TermCymru am "reference".
Roedd arna i eisiau cyfieithu "any job offer is subject to references".
Does dim sôn am luosog "geirda" yn TermCymru na Geiriadur yr Academi ond mae
Gwgl yn ffeindio
319 enghraifft o "geirdaon"o bob math o wahanol lefydd. Welais i erioed
mohono o'r blaen ac mae'n
swnio braidd yn od i mi. Ydi e wedi ennill ei blwyf?
Efallai y byddai'n well defnyddio "tystlythyrau".
A oes gwahaniaeth rhwng "geirda" a "thystlythyr"? Dw i'n gweld bod rhai
dogfennau'n cyfeirio at
"eirdaon a thystlythyrau".
Diolch
Siân
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.21.4/1312 - Release Date: 04/03/2008
21:46
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.21.4/1312 - Release Date: 04/03/2008
21:46
|