Efallai y byddai'r cyfieithiad yn fwy dealladwy o'i ad-drefnu:
O ddefnyddio/Os defnyddiwch (chi) Savills i gasglu data cyn i'r gwaith
ddechrau, bydd gennych/cewch (chi) sicrwydd/warant y caiff ffrwyth
yr/canlyniadau'r arolwg/arolygon [mae'n dibynnu sawl arolwg sydd] ei fwydo'n
ddi-dor i'r broses o gynllunio'r caffael/buddsoddi.
Mae'r ymadrodd 'the procurement/investment planning process' yn gymaint o
gwlwm nes ei bod hi'n anodd dirnad ai'r cyfieithiad uchod sy'n gywir neu a
yw Wyn yn iawn wrth roi 'y broses caffael/cynllunio buddsoddiant'. Byddwn
i'n rhyw gredu mai 'the planning process for procurement or investment' yw'r
ystyr yn hytrach na 'the process for procurement or the planning of
investment', ond yr awdur yn unig a dorri'r ddadl honno'n derfynol.
Rwy'n cofio gofyn i gwsmer i mi ynghylch cwlwm o eiriau fel hwn un tro,
'Does it mean x or y?' Yr ateb buddiol a gefais oedd 'Both!'
Diolch o galon, annwyl gwsmer ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, March 12, 2008 9:00 PM
Subject: Brawddeg
> The coordination in terms of the seamless provision of the survey results
> into the procurement/investment planning process would be guaranteed using
> Savills to undertake the pre-works data collection.
Hoffwn awgrymu'r cyfieithiad a ganlyn:
Buasai'r cydgordio, o ran cynnwys canlyniadau'r arolwg yn ddi-dor yn y
broses caffael/cynllunio buddsoddiant, yn cael ei warantu o ddefnyddio
Savills i ymgymryd â'r dasg o gasglu data cyn i'r gwaith ddechrau.
Wyn
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 7.5.518 / Virus Database: 269.21.7/1327 - Release Date: 12/03/2008
13:27
|