Catrin,
Feirws sy’n heintio bacteria yw bacterioffag.
Maent yn cael eu defnyddio weithiau mewn labordai epidemiolegol i
gategoreiddio heintiau achoswyd gan facteria (oherwydd bod mathau arbennig
o facterioffag yn heintio gwahanol fathau o facteria - handi ynte?).
‘Teipio bacterioffagaidd’ neu rhywbeth o'r fath fyddai’r trosiad mae’n
debyg. Ych!
Dafydd
|