ac mae pob miwsig yn creu awyrgylch (neu fe ddylai wneud)
falle bod 'amgylchol' yn iawn, yn yr ystyr bod y miwsig yn rhan o'r
amgylchfyd a'r amgylchiadau
ys gwn i be mae adran gerdd bangor yn ei alw?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Tomos
Sent: 26 February 2008 12:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ambient music
On Tue, Feb 26, 2008 at 12:00:30PM -0000, Puw, John wrote:
> Rydan ni'n ôl efo cerddoriaeth amgylchol felly.
Dyna union ystyr 'ambient'. Rhywbeth sydd o'ch amgylch - yn wahanol
i 'sain amgylchynol' (surround sound).
Pwy ddiawl sy'n mynd i'w alw yn "cerddoriaeth sy'n cyfleu awyrgylch"
(heblaw cyfieithwyr) pan fo 'ambient' mor syml a bachog?
Edrychwch ar bobl sy'n gwneud cerddoriaeth yn y maes fel yr Acid
Casuals ac 'amgylchol' yw eu dewis nhw. Dyw e ddim yn berffaith
ond cewch chi fyth trosiad perffaith o derm sydd mor adnabyddus yn
saesneg.
|