> Diolch David - mae hynny'n gwneud synnwyr - dwi wedi darllen y diffiniad yn
> Wikipedia erbyn hyn.
>
> Tybed fyddai blwch prif-ben yn gwneud synnwyr?
Mae'n dibynnu ar y lleoliad (a'r diffiniad yn amrywio rhwng yr UDA a
Phrydain). Mae yna nifer o 'headends' ar gyfer dosbarthu signal cebl,
ar lefel gwlad a rhanbarth, ond fyddech chi ddim yn galw hwnna'n
'box'.
Mi fyddai bocs/blwch yn awgrymu dosbarthiad o'r signal yn lleol o fewn
gwesty/fflatiau/swyddfa. Felly mi fyddai 'blwch dosbarthu digidol' yn addas yn
y cyd-destun, ac efallai defnyddio 'prif' hefyd os oes angen.
|