> Ond does dim cynodiadau negyddol i'r gair "hyfryd", felly fedra'i ddim
> gweld sut y mae'n cyfateb i "queer".
Yn union.. does dim angen ail-feddiannu 'hyfryd' ond dyna sydd wedi ei
ddefnyddio fel term hunan-ddiffinol (gan Dafydd Frayling ers y 90au
cynnar) yn yr un modd a queer - gair sydd ddim yn cyfeirio yn benodol
at rywioldeb. Felly mae'r gair yn cael ei ddefnyddio am yr un pwrpas
ond yn hannu o eiriau hollol wahanol yn y ddwy iaith.
> Dwi wedi clywed y gair "cwiar" (yn
> ddilornus) felly tybed ai hwnnw fyddai'r gair iawn i'w ddefnyddio?
Wel na achos dwi ddim yn ymwybodol fod neb wedi trio ail-feddiannu'r
gair yna.
|