Yn ôl a welaf i, Diplotaxis tenuifolia, yw'r un a ddefnyddir mewn saladau,
sef roced-y-muriau meinddail, yn ôl Rhestr Cym Edward Llwyd.
Byddai 'dail roced' yn taro deuddeg, os felly...
Rhisiart
From: "Non" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, January 04, 2008 1:33 PM
Subject: Re: Rocket Leaves
O'n i'n digwydd gwybod mai 'rucola' neu 'rugola' yw 'rocket' yn yr Eidaleg.
Mae'r enw hwnnw (cynhenid - 'arugula', sef yr enw yn America yn ôl pob
tebyg) yn fwy cyfarwydd yn gyffredinol ym myd coginio (mewn pesto, ar pizza
ayb) na 'rocket' (sy'n enw diweddar yn deillio ohono, dw i'n amau).
O edrych ar Wikipedia wy'n gweld mai 'eruca sativa' yw'r enw Lladin gw.
http://en.wikipedia.org/wiki/Arugula Enw amdano yw rocket salad neu garden
rocket. Yng ngeiriadur yr Academi, fe geir 'arfog y gerddi' a 'berwr y
gerddi' am eruca sativa.
Swn i'n sdicio at arugula, neu 'ddail berwr y gerddi' a rhoi arugula neu
rocket mewn cromfachau.
Non
----- Original Message -----
From: "Alun, Steffan" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, January 04, 2008 12:36 PM
Subject: Rocket Leaves
Sôn am salad, hynny yw. Yn ôl Geiriadur yr Academi, "berwr" yw'r gair am
"rocket" ym myd botaneg. Ai "dail berwr" yw "rocket leaves", felly? A sut,
os hynny, fyddai gwahaniaethu rhwng "rocket" a "cress"?
Steffan
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended
solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
If you have received this e-mail in error, please notify the administrator
on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask]
*******************************************************************
|