Mae gan y cwmni o Leeds enw drwg am orfodi cyfraddau isel ar gyfieithwyr.
Ffrwyth cyfuno dau neu dri o gwmnïau blaenorol ydynt (ac yr oedd o leiaf un
o'r rheiny'n ddigon amheus ei ddulliau), ac o'r herwydd maent yn fawr ac yn
bwerus. Buaswn i'n barod iawn i arwyddo llythyr torfol o wrthwynebiad.
Cefais yr un cynnig â sawl un arall (ar yr 8fed o'r mis hwn), ynghyd â chais
i mi roi gwybod i'r cwmni faint y fil y buaswn yn ei godi. Fe'u ffoniais i
gadarnhau mai marcio llawysgrifau oedd dan sylw, a mynegais y farn fod angen
pobl sy'n hyddysg ym meysydd Secioleg a Chymdeithaseg i wneud y gwaith hwn,
yn enwedig o ystyried yr angen i ddehongli termau arbenigol a fyddai wedi eu
camsillafu mewn llwysgrifen a oedd bron â bod yn annarllenadwy (Sinig? Na --
cyn-athro ysgol!).
Tynnais sylw hefyd at y ffaith fod yna ddiffyg corff cytunedig o dermau
Cymraeg mewn o leiaf un o'r meysydd hyn, a bod rhai o'r termau Cymraeg yn
gallu amrywio, o'r herwydd, o athro i athro ac o ddarlithydd i ddarlithydd.
A bod hynny'n rheswm arall dros i'r gwaith gael ei wneud gan arbenigwyr, nid
cyfieithydd lleyg fel fi.
Gwrthodais y cynnig am y rhesymau hyn, heb i fater tâl gael ei drafod o
gwbl. Ond o ystyried yr hyn y cyfeiriais ato yn y paragraff cyntaf uchod,
roeddwn yn ddigon balch o gael esgus i wrthod.
Wyn
|