Na, mae 'hyfryd' yn cyfateb yn agosach i 'gay' a 'hoyw' yn fy marn i.
h.y. mae'n amhosib ei ddefnyddio mewn ffordd negyddol. Ergyd defnyddio
'queer' ydi ei fod wedi'i ddefnyddio yn erbyn hoywon gan bobl 'strêt'. Dydi
'hyfryd' ddim yn ffitio'r darlun hwnnw o gwbwl. Dyna holl bwynt y cwestiwn.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, January 10, 2008 12:57 PM
Subject: Re: queer theory
>> Ond does dim cynodiadau negyddol i'r gair "hyfryd", felly fedra'i ddim
>> gweld sut y mae'n cyfateb i "queer".
>
> Yn union.. does dim angen ail-feddiannu 'hyfryd' ond dyna sydd wedi ei
> ddefnyddio fel term hunan-ddiffinol (gan Dafydd Frayling ers y 90au
> cynnar) yn yr un modd a queer - gair sydd ddim yn cyfeirio yn benodol
> at rywioldeb. Felly mae'r gair yn cael ei ddefnyddio am yr un pwrpas
> ond yn hannu o eiriau hollol wahanol yn y ddwy iaith.
>
>> Dwi wedi clywed y gair "cwiar" (yn
>> ddilornus) felly tybed ai hwnnw fyddai'r gair iawn i'w ddefnyddio?
>
> Wel na achos dwi ddim yn ymwybodol fod neb wedi trio ail-feddiannu'r
> gair yna.
>
|