Dwi'n cytuno'n llwyr efo Ann - ond mae'n rhaid mod i wedi eu dychryn, gan
nad wyf wedi cael ymateb o gwbwl i'r ebost a anfonais atyn nhw!
Wnes i ddim gweithio ar hwn y tro dwytha, ond fe wnes i'r tro cynt a chael y
profiad yn un eitha diddorol! Y peth anoddaf i mi oedd darllen llawysgrifen
y disgyblion - a chredaf y dylai'r gyfradd fod yn uwch i adlewyrchu hynny!!
Catrin
----- Original Message -----
From: "John Puw" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 16, 2008 9:50 AM
Subject: Re: Cytundebau Mawrion
>A chofier yr hen ddywediadau:
>
> Gelyn cyfieithydd ydy cyfieithydd arall!
>
> Ond!
>
> Mewn undod mae nerth
>
> Sent using BlackBerry® from Orange
>
> -----Original Message-----
> From: "Saunders, Tim" <[log in to unmask]>
>
> Date: Wed, 16 Jan 2008 09:36:13
> To:[log in to unmask]
> Subject: Re: Cytundebau Mawrion
>
>
> Hen ddywediad o fyd masnach: Fast, cheap, good - pick any two.
>
>
> Tim
> Tim Saunders
> Cyfieithydd / Translator
> Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council
> Translation Unit
> Ty Trevithick
> Abercynon
> Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ
> Ffôn +44-(0)-1443-744000
>
> Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
> angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
> Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn
> gyfreithiol freintiedig.
> Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os
> derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
> dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch
> yn dda.
> Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n
> gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
> fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu,
> dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
> Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
>
>
> This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view
> of Rhondda Cynon Taf Council.
> The information contained in this communication is confidential. It may be
> legally privileged.
> It is intended only for the person or entity named above.
> If you have received this e-mail in error please notify originator and
> erase this e-mail from your system.
> If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible
> for delivering it to the
> intended recipient, you are hereby notified that any use, review,
> dissemination, distribution or copying
> of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Catrin Beard
> Sent: 16 January 2008 09:02
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Cytundebau Mawrion
>
>
> Rwyf innau wedi cael ebost gan y cwmni ynglyn a chyfraddau'r gwaith hwn
> gyda'r un geiriad yn union, a hefyd wedi bod yn pendronni beth ddylwn i ei
> wneud. Byddai cael trafodaeth a barn pobl eraill ar hyn yn fuddiol.
> Dwi'n hoffi'r syniad o gydweithio ar gytundebau mawr fel hwn gyda
> chyfieithwyr eraill, a chadw'r gwaith yng Nghymru.
> Catrin
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
> Sent: 15 January 2008 22:39
> To: [log in to unmask]
> Subject: Cytundebau Mawrion
>
>
> Annwyl Bawb,
>
>
> Anfonaf y neges hon at Gylch Trafod y Gymdeithas a hefyd at
> Welsh-Termau-Cymraeg er y teimlaf mai yn y cyntaf, ac yng nghyfarfodydd y
> Gymdeithas, yw'r lleoedd mwyaf priodol i drafod y pwnc.
> Ers dwy flynedd 'rwyf wedi bod yn gweithio, fel nifer fawr ohonoch mae'n
> siwr, ar gytundeb mawr i asiantaeth Gymreig gyfeillgar a threfnus. Gan fod
> y cytundeb, i bob golwg, wedi'i gyflawni'n foddhaol, 'roeddwn i wedi bod
> yn gobeithio gwneud yr un peth eto eleni.
> Y tro cyntaf imi sylweddoli nad oedd yr asiantaeth wedi ennill y cytundeb
> oedd pan gefais ymholiad, gan gwmni y tu allan i Gymru, yn gofyn a oeddwn
> i'n barod i weithio arno iddyn nhw. Y tro cyntaf i'r asiantaeth arall
> sylweddoli nad oedd wedi llwyddo oedd pan gysylltais i a^ nhw i holi
> ynghylch y sefyllfa! Atebais yr ymholiad, gan anfon CV, so^n am fy
> mhrofiad yn y maes, a dweud y byddwn i'n disgwyl tua'r un graddfeydd ag yr
> oeddwn wedi'u derbyn yn y gorffennol. Cefais gynnig oedd yn *sylweddol*
> is, gyda'r geiriau: Whilst your rates are, of course, at your discretion,
> this is a new Client and we have had to offer them an extremely
> competitive rate in order to win the contract. ... I would assure you that
> we do not compromise quality over price, however, providing quality and
> skills are equal, price becomes the deciding factor for us as it does to
> our end Client."
> I mi, mae hyn cystal a dweud, "yr unig ffordd y gallem ennill y cytundeb
> oddi ar y cwmni a oedd yn gwneud y gwaith oedd trwy eich blingo chi."
> Fy mwriad i yw gwrthod y cyfle i ymuno a'r tim, ac efallai bydd eraill yn
> gwneud yr un peth, ond sylweddolaf y bydd yna nifer fawr ohonoch sydd wedi
> edrych ymlaen at y gwaith hwn, ac sydd wedi cadw eich amser yn weddol glir
> ar ei gyfer - efallai byddwch yn teimlo bod rhaid ichi dderbyn y raddfa
> is. Bum yn pendroni hefyd, "Beth os bydd llawer o bobl yn gwrthod y
> graddfeydd is, fel na all y cwmni gwblhau'r cytundeb mewn pryd? Sut all y
> cwmni weithredu?" Nid wyf yn un a llawer o ben ar gyfer busnes, ond
> efallai fy mod i'n sinigaidd - tybed a fydden nhw'n cynnig pris uwch i'r
> bobl a oedd wedi gwrthod - ond yn mynnu cyfrinachedd fel na fyddai'r
> gweddill yn cael gwybod?
> Mae'r holl beth yn drist, gan fod gwaith y cytundeb yn waith pwysig,
> gwaith sydd angen ei wneud mewn da bryd ac mor gywir ag y bo modd.
> 'Rwyf wedi son o'r blaen wrth gyfieithwyr eraill am y ffaith bod llawer o
> hufen y cytundebau mawrion yn mynd i asiantaethau dros y ffin, sy'n medru
> prynu gwaith yr un hen rai yng Nghymru efo'r llaeth sgim. Onid yw hi'n
> bryd inni feddwl am weithredu? A oes modd inni ddod at ein gilydd, gyda
> help gan y Gymdeithas, neu gan asiantaeth Gymraeg, i gynnig am gytundebau
> mawrion, hyd yn oed am y cytundeb hwn (sy'n un enfawr) y flwyddyn nesaf?
> Byddai'n rhaid buddsoddi ychydig bach ymlaen llaw, i gyflogi rhywun i
> ysgrifennu'r cais (gallaf feddwl am un unigolyn posibl, o leiaf), a rhaid
> i bob un gyfrannu rhan o'i dal i gyflogi gweinyddwr. A yw Canolfan
> Cydweithredol Cymru yn dal i weithredu o gwbl? A oes help i gael o rywle?
> Na, nid wyf yn cynnig gwneud y gwaith - ond mae'n hen bryd inni ddechrau
> meddwl am hyn, yn lle bod ar drugaredd pobl eraill.
> Dymuniadau gorau,
> Ann
>
>
--------------------------------------------------------------------------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.516 / Virus Database: 269.19.4/1227 - Release Date: 16/01/2008
01:40
|