Llawer o ddiolch. Mae'n ymddangos, efo'r ychydig o amser sydd gen i i
edrych i mewn i bethau cyn mynd at y wasg, y dylwn sticio at y gwreiddiol.
'Roeddwn i wedi rhagweld golygyddol gyda'r pennawd "Cael llond bol ar
"Christmas Child"", ac yn ystyried addo £5 i'r elusen am bob ysgol y y fro
oedd yn addo arfer yr enw Cymraeg. Ond pwyll pia hi ...
Rhys, os hoffech ymhelaethu'n breifat am hyn i gyd, croeso ichi sgwennu!
Ann ([log in to unmask])
----- Original Message -----
From: "Rhys Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, December 03, 2007 10:20 AM
Subject: Re: Operation Christmas Child
> On 01/12/2007, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
>
>> 'Dyn ni wrthi'n golygu'r papur bro ac mae pob ysgol yn y fro yn cyfeirio
>> at
>> "Operation Christmas Child" yn Saesneg. Un cyfeiriad sydd ar y we, gan
>> Ysgol Cwm-y-Glo, at "ymgyrch Plentyn y Nadolig". A oes 'na unrhyw reswm
>> heblaw diffyg dychymyg pam na chyfieithir y teitl?
>
> Er gwybodaeth, mae Operation Christmas Child yn frand rhyngwladol i'r
> elusen Samaritan's Purse*, ac yn nod masnach mewn sawl gwlad.
>
> Gweler http://www.ipo.gov.uk/ohim?ohimnum=E2624922 ac
> http://www.ipo.gov.uk/ohim?ohimnum=E2624484
>
> Rhys
>
> * er arbed pawb y bore ma, mi wna i gadw i fi fy hun fy nheimladau
> personol am yr elusen honno...
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.16.13/1165 - Release Date:
> 02/12/2007 20:34
>
>
|