O ran cyfieithu enwau cyrff, y peth gorau mae'n debyg yw peidio â chyfieithu
enwau cyrff - yn enwedig cyrff statudol a swyddogol: e.e. English Nature,
Scottish Enterprise ac ati. Dyma yw enwau'r cyrff a gallai eu cyfieithu
beri cryn ddryswch.
Gyda llaw, wrth Wglo, dyma ddarganfod mai 'Sgiliau er Cyfiawnder' yw enw
Cymraeg Skills for Justice.
Gwell gen i 'ddolen' na linc, ac mae llawer hefyd yn defnyddio
'cysylltiad(au)'
Hg
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sion Williams
Anfonwyd/Sent: 05 December 2007 11:24
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Galwedigaeth x 2 ac enwau cyrff
Helo,
Dau gwestiwn os gwelwch yn dda. Diolch o flaen llaw.
1 Mae gen i "Vocational Qualification reform" a "National Occupational
Standards" yn yr un frawddeg a gweld bod Vocational a Occupational ill dau
yn rhoi "Galwedigaethol" yn y Bruce. Oes rhn. yn medru cynnig rhth. gwell?
2 Yn yr un ddogfen cyfeirir at wahanol gyrff, cwangoau am y mwyafrif. Oes
yw'r corff yng Nghymru digon hawdd rhoi'r enw, e.e. WAG = LlCC. Fy ngwestiwn
yw beth am y rhai tu allan i Gymru yn arbennig rhai heb enwau Cymraeg. Ai
bathu, e.e. Skills for Justice = Sgiliau ar gyfer Cyfiawnder, ac yna rhoi'r
Saesneg ar ei ol mewn cromfachau, ynteu ei adael fel ag y mae? Neu gadael y
peth yn Saesneg, e.e. Lantra a Scottish Enterprise ?
Byddaf yn gwglo p'run bynnag rhag ofn bod dolen Gymraeg ar eu safleoedd gwe.
En passant, ai "dolen" ynteu "linc"? Rhaid cyfaddef fod yr olaf yn creu
iasau i lawr fy nghefn pan y'i darllenaf ar safle we y Cynulliad.
Hwyl o Wlad Pwyl,
Sion
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.16.14/1171 - Release Date: 04/12/2007
19:31
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.16.14/1171 - Release Date: 04/12/2007
19:31
|