Croeso'n ôl, John!
Enghraifft yw cerdd Blake o sut mae modd cyfieithu testun, heb o reidrwydd cyfleu'r un ergyd o gwbl.
Y gwrthwyneb yn wir hefyd. Brithgof gyda fi o arddangosfa yn Aberystwyth, ymhell yn ôl yn oes yr ysgrifbin inc a'r blwch ffôn, yn portreadu hanes y dref fel lle gwyliau ers talwm iawn. 'O na fyddai'n Haf o hyd' oedd y teitl Cymraeg, a'r Saesneg yn rhywbeth fel 'O that Summer were eternal'. Er ha fyddai hyn wedi bod yn drosiad uniongred, rwy'n dal i amau y byddai rhywbeth fel 'I do like to be beside the seaside' wedi cyfleu'r naws yn llawer gwell.
Tim
Tim Saunders
Cyfieithydd / Translator
Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council Translation Unit
Ty Trevithick
Abercynon
Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ
Ffôn +44-(0)-1443-744000
Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Rhondda Cynon Taf Council.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of John Puw
Sent: 13 December 2007 14:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: emyn Jerusalem
Wedi canfod ffordd o dderbyn w-t-c yn y gwaith heb ypsetio'r Sanhedrin sy'n rheoli'r system e-bost!
Dw i'n cofio golygu llyfr gan ryw wallgofddyn oedd yn byw yn Ninas Mawddwy oedd yn dweud yn sicr mai hogan o Lanerchymedd oedd y Forwyn Mair. Ac mai yno mae hi wedi'I chladdu.
Sent using BlackBerry® from Orange
-----Original Message-----
From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
Date: Thu, 13 Dec 2007 12:16:56
To:[log in to unmask]
Subject: Re: emyn Jerusalem
Gyda llaw, dywed Bruce bod Lloegr yn debyg o fod yn enw hen iawn, yn hy^n na dyfodiad y Saeson. Ond yr unig eglurhad y gwelodd o erioed oedd ei fod yn y lle cyntaf yn enw ar yr ardal o gwmpas Caerlyr. Felly, os daeth Iesu i Ynys Wydryn, mae'n bosibl yr aeth o i Loegr hefyd!
Ann
----- Original Message -----
From: Gorwel Roberts <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 13, 2007 11:57 AM
Subject: Re: emyn Jerusalem
Ia digon gwir ond go brin y gallwn ni honni bod Crist wedi dod i Gymru chwaith
----------------
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 13 December 2007 11:51
To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
Subject: Re: emyn Jerusalem
Ond 'doedd dim Lloegr bryd hynny! I Brydain y daeth, os i rywle.
Nid emyn moni hi, gyda llaw, ond cerdd gan Blake.
Ann
----- Original Message -----
From: Gorwel Roberts <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 13, 2007 11:39 AM
Subject: Re: emyn Jerusalem
Onid yw’r geiriau wedi eu seilio ar y syniad bod Iesu Grist wedi mynd i Loegr neu rwbath i Glastonbury?
----------------
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Løvgreen
Sent: 13 December 2007 11:17
To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
Subject: Re: emyn Jerusalem
Rhyfedd fel dan ni wedi derbyn fersiwn Cymraeg Finlandia i'n calonnau, ond ddim hon...
Gwrth-seisnigrwydd tybed?
----- Original Message -----
From: Catrin Alun <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 13, 2007 11:07 AM
Subject: Re: emyn Jerusalem
A finna! O'n i'n methu deall y gwrthwynebiad i 'Jerusalem' achos doeddwn i ddim yn gwybod y geiriau Saesneg!!
----- Original Message -----
From: Geraint Løvgreen <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 13, 2007 10:59 AM
Subject: Re: emyn Jerusalem
Ew, da di hon! Dwi'n cofio'i chanu hi yn yr ysgol, cyn imi wybod bod na fersiwn Saesneg!
----- Original Message -----
From: Rhian Jones <mailto:[log in to unmask]>
To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 13, 2007 10:38 AM
Subject: Re: emyn Jerusalem
Yn rhan yr Anthemau yn hen Lyfr Emynau a Thonau'r Methodistiaid (Rhif 41) -
A sangodd traed ein Harglwydd gynt
Anial fynyddoedd Cymru gu?
A welwyd sanctaidd Oen ein Duw
Hyd ddolydd gwyrddlas Cymru Fu?
A fu ei wyneb dwyfol Ef
Gynt yn goleuo'r dywyll fro?
A fu Jeriwsalem dinas Duw
Yng ngwlad y mwg a'r pyllau glo?
Rhowch im fy mwa euraid llosg!
Saethau fy nymuniadau glân!
Fy mhicell rhowch! O! gwmwl, hollt!
A dygwch im fy ngherbyd tân.
Ni chwsg fy nghleddyf yn fy llaw,
Ni ddianc f'enaid rhag y gad
Nes codi mur Jeriwsalem
Ar feysydd gwyrdlas Cymru fad.
(Yr Athro D. Miall Edwards)
----------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.17.1/1182 - Release Date: 12/12/2007 11:29
----------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.17.1/1182 - Release Date: 12/12/2007 11:29
----------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.503 / Virus Database: 269.17.1/1182 - Release Date: 12/12/2007 11:29
|