On 17/12/2007, sioned Edge <[log in to unmask]> wrote:
> Tybed fedrwch chi helpu os gwelwch yn dda. O'ch profiad chi -
>
> Pa offer cof cyfieithu fyddai fwyaf addas ar gyfer awdurdod lleol gyda dim
> ond 2 gyfieithydd?
Dyw hwn ddim yn uniongyrchol ateb y cwestiwn, ond er diddordeb i'r
cylch, fe wnaethon ni (h.y. fi a Delyth) rhyw arolwg eitha anwyddonol
yn ddiweddar o ddefnydd meddalwedd cof cyfieithu. Roedd hyn yn ystod
cynhadledd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ar Dachwedd 16eg yn
Aberystwyth, yn sesiwn drafod SALT Cymru: mwy am hynny isod.
Roedd ychydig yn llai na'r hanner o'r rhai oedd yn y sesiwn yn
defnyddio rhyw fath o feddalwedd cof cyfieithu. O'r rhai oedd yn
defnyddio cof cyfieithu, roedd y rhan fwyaf (ychydig dros yr hanner)
yn defnyddio Déjà Vu, ychydig yn llai yn defnyddio Trados, ac ychydig
yn llai wedyn yn defnyddio Wordfast.
Wnaethon ni ddim holi ymhellach i weld faint oedd yn cael rhyddid i
ddewis eu meddalwedd cof cyfieithu eu hunain.
Gyda llaw, fedra i dynnu sylw pawb at wefan SALT Cymru,
http://www.saltcymru.org/ ? Ein project newydd ni yng Nghanolfan
Bedwyr yw hyn. Dan ni'n ceisio codi ymwybyddiaeth o'r defnydd a ellir
ei wneud o dechnoleg iaith a lleferydd yng Nghymru, ac o ganlyniad,
symud y dechnoleg honno ymlaen yn y ffyrdd sydd eu hangen ar ei
defnyddwyr. Mae cofion cyfieithu, yn bendant, yn un o'r technolegau
iaith sy'n berthnasol i'r project.
Croeso i bawb gofrestru ar y wefan, felly. Ymddiheuriadau i'r rhai
sydd wedi gwneud hynny eisoes.
Hwyl
Rhys
|