> Os yw plant ddyddiau hyn yn methu deall "gwneud" neu'n ei
> weld yn rhyw ffurfiol a "posh" waeth inni roi'r ffidl yn y
> to ddim. A yw'r egwyddor heddiw i (a oes "i" i fod yma?)
> beidio a dysgu i blant unrhyw beth nad ydynt yn gwybod
> eisoes, na dangos dim ffordd well iddynt rhag ofn iddynt
> deimlo'n israddol?
Am y rheswm yma, byddai'n well gen i weld "g'neud", fy hun. Ond yn sicr,
dydw i ddim yn teimlo bod angen cadw'n gaeth at ffurfiau llenyddol mewn
posteri ac ati. Un o gryfderau'r Gymraeg, yn fy nhyb i, yw bod modd newid
naws rhywbeth yn llwyr trwy benderfynu pa ffurfiau i'w defnyddio; gwahanol
i'r Saesneg, lle does dim modd defnyddio ffurfiau llafar nad ydynt yn
llenyddol heb wneud iddo edrych yn hynod o amhroffesiynol.
(Ac i gyfeirio at bwynt John Puw, dydw i ddim yn meddwl mai ceisio osgoi bod
yn "posh" oedd Caradog Prichard.)
Steffan
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
|