Cytunaf i ag Anne... Mae'r ffasiwn i ysgrifennu unrhyw beth sydd ar lafar ac
sy'n rhan o iaith y stryd, yn hytrach na'r hyn sy'n safonol, yn draddodiadol
ac yn genedlaethol, yn drist o ddinistriol. Mae swyddogaeth i ddeud, gweud,
neud, gneud mewn stori lle y mae rhywun am ddangos beth yw iaith y
cymeriadau, ond...
Nid yw'r Saesneg yn fachog ond rhaid cael Cymraeg israddol, beth bynnag....
Rhisiart
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, November 27, 2007 12:13 PM
Subject: Re: gwneud / gneud / g'neud
Mae'r neges hon heb fynd trwodd, ac nid wyf wedi gweld ymholiad diweddaraf
Annes (neu'r ymholiad a anfonodd Annes yn ddiweddar??) ac eithrio ar y
wefan. Triaf eto o'rffurflen ar y wefan:
Os yw plant ddyddiau hyn yn methu deall "gwneud" neu'n ei weld yn rhyw
ffurfiol a "posh" waeth inni roi'r ffidl yn y to ddim. A yw'r egwyddor
heddiw i (a oes "i" i fod yma?) beidio a dysgu i blant unrhyw beth nad
ydynt yn gwybod eisoes, na dangos dim ffordd well iddynt rhag ofn iddynt
deimlo'n israddol?
Ann
|