Cer â'r ddadl hon i'w phen, a fasa gennon ni ddim iaith Gymraeg i ddadlau
amdani! Fasen ni i gyd yn dal i siarad Brythoneg!
"..ond fedrwch chi ddim hepgor y terfyniad genidol..." - Gramadegwr unig bum
munud cyn iddo gael ei droi'n slwtj yng Nghatraeth.
----- Original Message -----
From: "Howard Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, November 27, 2007 4:51 PM
Subject: Gwneud/gneud
Ni wad neb bod rhaid dwyn y cywair mewn cof. Gellir ysgrifennu agos
unrhywbeth mewn nofel, neu lythyr at gyfaill, er enghraifft: ond yn achos
dogfen "gyhoeddus" a anelir at blant, gorau fyddai peidio a^ thanseilio
ymdrechion eu hathrawon i ddysgu iddynt Gymraeg cywir.
|