Howard Huws wrote:
> Pysgod marw sy'n mynd gyda'r llif. O ymaddasu ormod at chwiwiau'r oes,
> hawdd iawn y pontiem y ffin rhwng Cymraeg gwael a Saesneg gwael: byddem yn
> tlodi ac yn tanseilio ein hiaith. Ni chredaf fod "gwneud" yn peri unrhyw
> anhawster i blant, waeth sut yr yngenir y gair hwnnw ar lafar.
Pam nad ydyn ni'n defnyddio 'gwneuthur', 'te? Roedd o'n ddigon da
i William Morgan. Y pwynt yw bod pob iaith yn newid yn gyson er
gwaethaf egni%on y cyfieithwyr a'r gramadegwyr. Wela i ddim o'i
le mewn defnyddio 'gneud' neu 'neud' ar gyfer plant; bydd yn ddigon
hawdd iddyn nhw wneud y cysylltiad rhwng 'neud' a 'gwneud' yn
hwyrach.
--Mark
|