Mae'r neges hon heb fynd trwodd, ac nid wyf wedi gweld ymholiad diweddaraf
Annes (neu'r ymholiad a anfonodd Annes yn ddiweddar??) ac eithrio ar y
wefan. Triaf eto o'rffurflen ar y wefan:
Os yw plant ddyddiau hyn yn methu deall "gwneud" neu'n ei weld yn rhyw
ffurfiol a "posh" waeth inni roi'r ffidl yn y to ddim. A yw'r egwyddor
heddiw i (a oes "i" i fod yma?) beidio a dysgu i blant unrhyw beth nad
ydynt yn gwybod eisoes, na dangos dim ffordd well iddynt rhag ofn iddynt
deimlo'n israddol?
Ann
|