Mi faswn innau'n dadlau mai undod ieithyddol yw'r cam cyntaf at diffyg iaith
o gwbl. Rwy'n hapus iawn bod cymaint o amrywiaeth yn y farn gyffredinol am
gwneud/gneud/g'neud. Profi bod digon o fywyd i'r iaith fel bod lle i lawer
o amrywiaeth.
(Ond rwy'n dal i gredu bod rhai wedi gorymateb, o ystyried mai poster yn
unig sydd dan sylw, yn hytrach na rhywbeth addysgiadol. I'r rheiny sy'n
debygol o ddefnyddio'r hyn maent yn gweld ar boster yn rhan o'u sillafu nhw
eu hunain, does bosib eu bod felly'n gwybod digon am y Gymraeg i sylweddoli
bod amrywiaeth ynddi o ardal i ardal.)
Steffan
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On
> Behalf Of Howard Huws
> Sent: 29 November 2007 11:31
> To: [log in to unmask]
> Subject: Gwneud/gneud
>
> Yn union, Rhisiart. Credwch neu beidio, 'dyw dadlau
> Phariseaidd ynghylch
> pob iod a thipyn yn apelio dim ataf: ond fy mhryder yw bod yr
> amhersonol,
> treigliadau, priod-ddulliau, cystrawen, rhifo, troeon
> ymadrodd ac ati oll
> yn mynd i'w crogi wrth inni greu "Cymraeg" nad yw ond yn adlewyrchu'r
> Saesneg, gair am air. Os digwydd hynny, nid iaith unigryw
> profiad y Cymry
> fydd hi, ond dynwarediad o'r iaith sy'n ei bygwth fwyaf.
> Agwedd arall ar yr
> un duedd yw'r gwgu ar Gymraeg "safonol". Hwyrach nad yw'n
> union debyg i'r
> iaith lafar, ond pa iaith safonol sydd? Ei mantais yw ei bod
> hi'n rhoi inni
> safon gyffredin, ar yr union adeg pan fo arnom angen undod yn wyneb
> bygythiad.
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************
|