A cer â hi i'w phen arall a bydd pawb yn sgrifennu ei iaith fach ei
hunan.
Mae 'da fi ferch 12 oed sydd â'i sillafu'n rhemp am nad yw hi'n aros
i feddwl o lle mae geirie'n dod.
Dw i wedi'i gweld hi (ac eraill) yn sgrifennu "abod" - "Roedd John yn
abod Huw" :-(
Dw i ddim yn sôn yn benodol am enghraifft John yma - ond mae
sgrifennu Cymraeg anffurfiol sy'n argyhoeddi yn dipyn o gamp!
Gyda llaw, wrth sôn am gollnod yn "g'neud" - roedd rhywun - Bobi
Jones o bosib - yn galw collnodau, o'u gorddefnyddio, yn "gerrig
beddi ehedog" - da!
On 27 Nov 2007, at 17:34, Geraint Løvgreen wrote:
> Cer â'r ddadl hon i'w phen, a fasa gennon ni ddim iaith Gymraeg i
> ddadlau amdani! Fasen ni i gyd yn dal i siarad Brythoneg!
>
> "..ond fedrwch chi ddim hepgor y terfyniad genidol..." - Gramadegwr
> unig bum munud cyn iddo gael ei droi'n slwtj yng Nghatraeth.
>
> ----- Original Message ----- From: "Howard Huws"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, November 27, 2007 4:51 PM
> Subject: Gwneud/gneud
>
>
> Ni wad neb bod rhaid dwyn y cywair mewn cof. Gellir ysgrifennu agos
> unrhywbeth mewn nofel, neu lythyr at gyfaill, er enghraifft: ond yn
> achos
> dogfen "gyhoeddus" a anelir at blant, gorau fyddai peidio a^
> thanseilio
> ymdrechion eu hathrawon i ddysgu iddynt Gymraeg cywir.
|