> Dw i wrthi'n cyfieithu rhywbeth ym maes newyddiaduraeth a dw i'n sylweddoli nad
> ydw i ddim wir yn deall beth yw leader article yn Saesneg! Tydi hi ddim yn
> erthygl ar y dudalen flaen o anghenraid a tydi hi ddim yn olygyddol o
> anghenraid. Mae'n un o'r prif erthyglau yn y papur, yn mynegi barn ond nid o
> anghenraid barn y golygydd
Mae yr un fath a 'leading article', sef prif erthygl yn mynegi barn
olygyddol 'y papur', ond ddim fel arfer gan staff newyddiadurol y papur.
Er fod 'leading' yn cael ei ddefnyddio yn yr ystyr 'prif' neu
'blaenllaw', bosib fod yr ystyr 'arweiniol' yn gwneud synnwyr hefyd,
am fod yr erthyglau yn datgan barn y papur ac arwain y drafodaeth?
|