Wrth gwrs, dylai unrhyw awdurdod lleol gael y rhyddid hwnnw. Ond onid lle
cyfieithwyr yw dangos i awdurdodau pam y mae eu hawgrymiadau'n 'wallus',
neu'n gamarweiniol neu beth bynnag fynnwch chi? Os ewch chi'n rhy bell ar
hyd yn llwybyr hwnnw, sut mae atal Rhydlafar rhag troi'n Redlaver? Neu a
ydych chi am ganiatau i hynny ddigwydd pan fydd rhai trigolion yn mynnu
hynny? Onid yr ateb gydag awdurdodau etc yw eu trin fel 'y cwsmer', sef
cydymffurfio â'u dymuniad wrth ddelio â nhw, ond nid fel arall?
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gorwel Roberts
Sent: 03 September 2007 15:43
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cei Newydd/Ceinewydd?
Oni ddylai fod hawl gan bob cymuned/tref i sillafu enw eu tref neu bentref
ar ba bynnag ffurf sy'n dderbyniol ganddynt e.e. Cei Newydd, Llanon, Aber
Ystwyth, Llanbi Dinodyn? (Nid fi sy'n dweud hyn - ond beth mae rhywun i fod
i'w wneud mewn sefyllfa o'r fath?)
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Alun
Sent: 03 September 2007 15:24
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cei Newydd/Ceinewydd?
Diolch Delyth - mae hwnna'n ffantastig! Tybed faint ohonom aeth yn syth ato
fo ar ol derbyn dy neges?! A does gen i ddim un enw lle yn fy ngwaith ar y
funud chwaith ... :o)
Catrin
----- Original Message -----
From: "Delyth Prys" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, September 03, 2007 3:04 PM
Subject: Re: Cei Newydd/Ceinewydd?
Edrychwch ar http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaucymru/
Delyth
Ysgrifennodd H.K.Smith:
> Yn achos enghraifft Gorwel, mae angen cysylltnod er mwyn nodi'r pwyslais,
> sef ar yr ail sillaf, nid ar y sillaf gyntaf. Rywsut, dwy ddim yn credu
> bod Llan-non yn odli â Shannon, er enghraifft.
>
> Helen
>
> Ysgrifennodd Gorwel Roberts:
>
>> A beth am Llan-non / Llanon?
>>
>>
>> ------------------------------------------------------------------------
>>
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Heledd Mitchell
>> Sent: 03 September 2007 14:33
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Cei Newydd/Ceinewydd?
>>
>>
>> Annwyl Gyfeillion,
>>
>> Byddwn yn ddiolchgar iawn am eich sylwadau ynglyn â’r uchod. Gwn fod
>> Gyrra a’r Gazetteer yn defnyddio un gair. Fodd bynnag, mae aelodau Cyngor
>> y Dref a nifer o bobl leol yn daer y dylid defnyddio dau air. Yn wir,
>> rydym wedi cael cerydd cyn heddiw am ysgrifennu ‘Ceinewydd’. Mae’n bwnc
>> dadleuol. Beth, felly, sy’n gywir?
>>
>> O ran yr arwydd, rwyf ar ddeall y caiff ‘Cei Newydd’ ei ddefnyddio.
>>
>> Diolch am unrhyw oleuni!
>>
>> Heledd
>>
>
>
>
--
Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol
Cymru Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
This email is subject to the terms and conditions of the University of
Wales,
Bangor email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.484 / Virus Database: 269.13.3/986 - Release Date: 03/09/2007
09:31
--
This message has been scanned for viruses and
dangerous content by SAQNET SpamAlizer www.saq.co.uk, and is
believed to be clean.
|