Wrth drafod cystrawennau fel hyn gyda'r Athro Peter Wynn Thomas rai
blynyddoedd yn ôl, fe esboniodd (fel y gwnaeth yr Athro Bedwyr Lewis Jones
flynyddoedd ynghynt) fod rhywbeth sy'n rhan o rywbeth arall yn cymryd 'o',
e.e yr ail bennod o'r llyfr, y rhan fwyaf o'r tir, y mwyafrif o'r bobl.
Doedd 'mwyafrif y bobl' ddim yn gywir, yn ei farn ef.
Er hynny, mae'n anodd gweld sut y gellid cymhwyso'r rheol honno at ymadrodd
fel 'in the spring of next year' a dweud 'yn y gwanwyn o'r flwyddyn nesaf'.
'Gwanwyn y flwyddyn nesaf' sy'n swnio'n iawn i mi, ac mae 'y gwanwyn nesaf'
yn well byth am fod llai o arlliw cyfieithu arno. Roeddwn i ar fin gofyn ai
am mai rhywbeth haniaethol sy dan sylw y byddwn ni'n hepgor yr 'o', ond
cofiais am yr ymadrodd 'y rhan fwyaf o'r amser' ... Gwell mynd i dyrchu
ymhellach yn 'Gramadeg y Gymraeg'!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Steffan Alun" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, September 07, 2007 10:00 AM
Subject: Re: "In the spring of next year"
> Diolch yn fawr am y croeso a'r cynigion.
>
> Er bod "gwanwyn nesaf" yn gryno, hoffwn wybod beth yw'r egwyddor am
> ddefnydd y fannod yn y cymal. Unrhyw syniadau ...?
>
> Steffan
>
>>From: Eirian Youngman <[log in to unmask]>
>>Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>vocabulary <[log in to unmask]>
>>To: [log in to unmask]
>>Subject: Re: "In the spring of next year"
>>Date: Fri, 7 Sep 2007 09:56:32 +0100
>>
>>Helo Steffan!
>>
>>Cytuno gyda Huw - 'y gwanwyn nesaf' yn gryno neis......
>>
>>Eirian
>>
>>
>>----- Original Message -----
>>From: "Huw Tegid" <[log in to unmask]>
>>To: <[log in to unmask]>
>>Sent: Friday, September 07, 2007 9:48 AM
>>Subject: ATB: "In the spring of next year"
>>
>>
>>Croeso i'r cylch, Steffan.
>>
>>Tybed a fyddai 'y gwanwyn nesaf' yn ddigonol? Defnyddiodd Edgar Jones yr
>>ymadrodd hwnnw ym mhapur bro Y Rhwyd yn ddiweddar:
>>
>>"Pwy sy'n fodlon gwirfoddoli i wyngalchu Eglwys Llanfigael y gwanwyn nesaf
>>a'i chael i edrych fel y gwnai yn nyddiau William Morris?"
>>
>>
>>Cofion gorau,
>>
>>Huw
>
> _________________________________________________________________
> Can you see your house from the sky? Try Live Search Maps
> http://maps.live.com
>
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.485 / Virus Database:
> 269.13.8/993 - Release Date: 06/09/2007 15:18
>
>
|