>Hyd y gwela i, mae "huanawc" yn golygu disglair
'Roedd "huan" yn hen air ar yr haul, meddai Bruce, felly gallai "huanawc"
yn rhywbeth fel "heulog".
Ann
Original Message:
-----------------
From: Berwyn Jones [log in to unmask]
Date: Wed, 5 Sep 2007 09:00:08 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Carnhuanawc
Dyw'r Bywgraffiadur ddim yn cynnig unrhyw oleuni ar darddiad yr enw ond
posibilrwydd amlwg, efallai, yw iddo arddel yr enw ar sail carnedd neu gaer
yn ei blwyf enedigol, sef Llanfair Pabuan. Serch hynny, wela i ddim carnedd
a'r enw hwnnw arni yng nghyffiniau Llanafan Fawr, y pentref agosaf, ar
fapiau'r Arolwg Ordnans. Dangosir carnedd ddienw yn rhan ucha'r plwyf, ond
mae'n ddigon posib bod modd dweud hynny am y mwyafrif o blwyfi!
Does dim cofnod o'r enw i'w gael ychwaith yn Coflein, cronfa ddata Comisiwn
Brenhinol Henebion Cymru o safleoedd hanesyddol ac archaeolegol.
Wn i ddim a yw'n berthnasol, ond enw bedydd mam Prys a Rhodri Morgan oedd
Huana. Fe all fod cysylltiad ... Os nad oes ateb i'w gael yn hwylus,
efallai
mai holi Prys fyddai'r peth doethaf.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, September 04, 2007 10:03 PM
Subject: Carnhuanawc
Oes rhywun yn gwybod beth yw tarddiad yr enw "Carnhuanawc" (Thomas Price)
os
gwelwch yn dda?
Hyd y gwela i, mae "huanawc" yn golygu disglair ond fe allai "carn" olygu
nifer o wahanol bethau -
neu, os ydw i'n deall GPC yn iawn, gallai'r enw olygu "Yr un mwyaf
disglair"
hyd yn oed.
Cwsmer sy'n holi am ystyr yr enw.
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.485 / Virus Database: 269.13.5/990 - Release Date: 04/09/2007
22:36
--------------------------------------------------------------------
myhosting.com - Premium Microsoft® Windows® and Linux web and application
hosting - http://link.myhosting.com/myhosting
|