Jyst o ran diddordeb, ac yng nghyswllt enwau lleoedd yng Ngheredigion, dyma
gwpl o atgofion o'm hamser innau yn swyddfa prif weithredwr y cyngor
dosbarth (gynt):
Clerc a Chadeirydd di-Gymraeg y Cyngor Cymuneb (ni chofiaf yr enw -
Llansanffraed?) yn ardal Llan-non yn cael cyfarfod hir a'r prif weithredwr,
yn ceisio mynnu newid enw'r pentref i "Llanon" yn swyddogol, rhag ei
gymysgu a rhyw "Llan-non" arall. Dw i ddim yn meddwl iddynt lwyddo.
Cododd cwestiwn swyddogol ynghylch sillafiad Llandysul. Mae gen i syniad
i'r Prif Weithredwr, yn yr achos hwnnw, ysgrifennu at glerc y cyngor am
farn hwnnw. Gorwel, tasech chi'n cael cyfle i ymchwilio hen ffeiliau
Cyngor Tref Llandysul yn seler Neuadd y Dref, Aberystwyth - os nad oes neb
wedi'u taflu - cewch ymateb y clerc (o blaid un "s") ar ffurf englyn.
Mae'n bosibl bod gen i gopi yn rhywle - 'dw i oddi cartref ar hyn o bryd,
ond os cofiaf wedi mynd adref mi chwilia i. Mi 'roedd pobl yn ysgrifennu
at y cyngor bob hyn a hyn mewn englynion, a chedwais i gopi o rai ohonynt.
Nid oedd llawer o Gymraeg gan y PW bryd hynny, felly mae rhaid bod 'na
berlau "wasting their sweetness on the desert air" - neu yn y seler o leiaf!
Ann
Original Message:
-----------------
From: Gorwel Roberts [log in to unmask]
Date: Tue, 4 Sep 2007 08:14:10 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cei Newydd/Ceinewydd?
Beth am atgyfodi’r hen Garnarvon? A feiddiaf godi mater Cric(c)ieth, Bettws,
Llandyssul?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 03 September 2007 16:39
To: [log in to unmask]
Subject: Cei Newydd/Ceinewydd?
Bobol bach, a’r holl gywirdeb topograffig yma’n cyniwair, byddwch chi i gyd
am gael gwared ar “Cil-y-coed” nesa, a chadw at “Caldicot”!
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Muiris Mag
Ualghairg
Anfonwyd/Sent: 03 September 2007 16:16
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Cei Newydd/Ceinewydd?
Pam dylai fod gan bob cymuned/tref yr hawl i sillafu ei henw fel y
mynno? Dylent fod yn sillafu enwau lleoedd yn ôl sillafiad cywir yr
iaith. Ar wahân i Londonderry/Derry dw i ddim yn gwybod am yr un
pentref neu dref sy'n mynnu camsillafu enw'r dref/pentref yn ôl mympwy
pwy bynnag sy'n digwydd ei rheoli ar y pryd. Does neb yn ysgrifennu
'New Castle on Tyne' a 'Bridge End' nac yn mynd i'r fath drafodaeth
ddi-fudd am y peth fel y ceir yng Nghymru. Mae arbenigwyr wedi
ymchwilio i hanes yr enwau, yn deall sut i'w hysgrifennu ac wedi
cyhoeddi eu hargymhellion - ac nid wyf yn teimlo'n ddigon dewr i fynd
yn groes i'r bobl ddeallus hynny!
On 03/09/07, Gorwel Roberts <[log in to unmask]> wrote:
> Oni ddylai fod hawl gan bob cymuned/tref i sillafu enw eu tref neu bentref
> ar ba bynnag ffurf sy'n dderbyniol ganddynt e.e. Cei Newydd, Llanon, Aber
> Ystwyth, Llanbi Dinodyn? (Nid fi sy'n dweud hyn - ond beth mae rhywun i
fod
> i'w wneud mewn sefyllfa o'r fath?)
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Alun
> Sent: 03 September 2007 15:24
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Cei Newydd/Ceinewydd?
>
> Diolch Delyth - mae hwnna'n ffantastig! Tybed faint ohonom aeth yn syth
ato
> fo ar ol derbyn dy neges?! A does gen i ddim un enw lle yn fy ngwaith ar
y
> funud chwaith ... :o)
>
> Catrin
>
> ----- Original Message -----
> From: "Delyth Prys" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, September 03, 2007 3:04 PM
> Subject: Re: Cei Newydd/Ceinewydd?
>
>
> Edrychwch ar http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaucymru/
>
> Delyth
>
>
> Ysgrifennodd H.K.Smith:
>
> > Yn achos enghraifft Gorwel, mae angen cysylltnod er mwyn nodi'r
pwyslais,
> > sef ar yr ail sillaf, nid ar y sillaf gyntaf. Rywsut, dwy ddim yn credu
> > bod Llan-non yn odli â Shannon, er enghraifft.
> >
> > Helen
> >
> > Ysgrifennodd Gorwel Roberts:
> >
> >> A beth am Llan-non / Llanon?
> >>
> >>
> >>
------------------------------------------------------------------------
> >>
> >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> >> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Heledd
Mitchell
> >> Sent: 03 September 2007 14:33
> >> To: [log in to unmask]
> >> Subject: Cei Newydd/Ceinewydd?
> >>
> >>
> >> Annwyl Gyfeillion,
> >>
> >> Byddwn yn ddiolchgar iawn am eich sylwadau ynglyn â'r uchod. Gwn fod
> >> Gyrra a'r Gazetteer yn defnyddio un gair. Fodd bynnag, mae aelodau
Cyngor
>
> >> y Dref a nifer o bobl leol yn daer y dylid defnyddio dau air. Yn wir,
> >> rydym wedi cael cerydd cyn heddiw am ysgrifennu 'Ceinewydd'. Mae'n bwnc
> >> dadleuol. Beth, felly, sy'n gywir?
> >>
> >> O ran yr arwydd, rwyf ar ddeall y caiff 'Cei Newydd' ei ddefnyddio.
> >>
> >> Diolch am unrhyw oleuni!
> >>
> >> Heledd
> >>
> >
> >
> >
>
>
> --
> Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol
> Cymru Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma:
> http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
> This email is subject to the terms and conditions of the University of
> Wales,
> Bangor email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here:
> http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.484 / Virus Database: 269.13.3/986 - Release Date: 03/09/2007
> 09:31
>
--------------------------------------------------------------------
mail2web LIVE – Free email based on Microsoft® Exchange technology -
http://link.mail2web.com/LIVE
|