Wel, yn yr achos yma, y gobaith yw y byddan nhw'n newid y Saesneg hefyd.
Ac os nad ydych chi'n sôn wrthyn nhw, byddan nhw'n dal i'w wneud e -
ac felly bydd yn mynd yn beth mwy a mwy "arferol" a derbyniol.
Weithiau mae'n swnio'n well geirio'r peth fel cwestiwn.
Siân
On 31 Aug 2007, at 16:45, [log in to unmask] wrote:
> Dwn i ddim pam eich bod yn holi cwsmeriaid am unrhyw beth - be mae
> nhw'n ei wybod? (medde'r ddynes sydd yn bartner mewn siop ac yn byw
> ynddi ers 30 mlynedd!).
> Os byddaf yn gweld mai UK yw'r cyd-destun, byddaf yn cyfeirio at y
> Deyrnas Unedig, yn llawn neu'r talfyriad, a chadw cenedlaethol bob
> amser at Gymru - no messing! Wedyn gellir defnyddio rhanbarthau ar
> gyfer rhannau o Gymru neu Loegr, heb godlo! Pa ofyn sydd eisiau a'r
> gwirionedd yn glir fel golau dydd?!!!
> magi
>
> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, August 31, 2007 11:33 AM
> Subject: National = Prydeinig
>
>
> Mae Ann wedi codi'r mater hwn yn yr edefyn "happy-slapping".
> "Rhaid nad fi yw'r unig un erioed i ofyn i gwsmer "Wrth ddweud
> "national", ydych chi'n golygu
> Cymreig ynteu Prydeinig?", a chael nad yw'r gwahaniaeth ddim wedi
> croesi ei feddwl."
>
> Sut y mae pob eraill yn ymdrin â'r mater?
> Mae'r peth wedi codi dair neu bedair gwaith yma dros yr wythnosau
> diwethaf.
>
> Un tro, roedd angen gwahaniaethu rhwng "national PR" (Prydeinig) a
> "regional PR" (Cymreig).
> Wnes i anfon cwestiwn/sylw braidd yn flin.
>
> "It seems that "national PR" is used to refer to "UK-wide" (rather
> than Welsh).
> What does "regional PR" mean here? - Regions within Wales e.g.
> South West Wales?
> Or is it "regional" from an English perspective and actually means
> Welsh i.e. national?
> If so, this is offensive to Welsh people. If you use "regional" to
> refer to Wales, you could well receive
> a lot of complaints."
>
> Ges i ateb yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud hyn ers pum mlynedd
> ac na chawson nhw'r un
> gwyn eto!!
>
>
>
> __________ NOD32 2493 (20070831) Information __________
>
> This message was checked by NOD32 antivirus system.
> http://www.eset.com
|