dyfyrio = dweud y drefn, yn ôl cyfaill o dde Ceredigion - a cheir cadarnhad
o hynny yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru ar dudalen 985: difrio: ar lafar yn y
Deau yn y ffurf 'difyrio, dyfyrio'.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 17, 2007 12:04 PM
Subject: Re: Caryl Lewis 2
> >1 Oedd Mari a+ chroen ei thin ar ei thaclen
> Tebyg i "had got up on the wrong side of the bed / disgruntled", meddai
> Bruce. "niggly"? Cymeraf mai babi yw Mari?
>
>> 2 llyncu'n grwn
> Angen rhagor o gyd-destun
>
>> 3 cach gi bwn. Beth ydy bwn?
> caci-bwm - wasp, hornet, rhywbeth fel 'na, meddai Bruce
>
>>4 dyfyrio
> Dylai olygu rhywbeth fel sooth/amuse/comfort - ffurf ar "difyrru" gydag
> "i", ond mae'n anodd fod yn hyderus mai dyna yw'r ystyr yma.
>
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Sion Williams" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, July 17, 2007 11:38 AM
> Subject: Caryl Lewis 2
>
>
>> Annwyl Gyfeillion,
>>
>> Diolch am eich cymorth gyda Charyl Lewis. Dyma rai pethau a erys o'r
>> gwaith Ffec Tan. Eich syniadau plis er fod y cyntaf i weld yn rhy amlwg.
>>
>> 1 Oedd Mari a+ chroen ei thin ar ei thaclen
>>
>> 2 llyncu'n grwn
>>
>> 3 cach gi bwn. Beth ydy bwn?
>>
>> 4 dyfyrio - Cyd destun ydy: pan fyddai M yn crio wedyn byddai ei mam yn
>> dod draw a sniffian o'i hamgylch cyn ei dyfyrio am ddwyno ei napi mor
>> aml.
>>
>> Diolch yn fawr.
>>
>> Sion
>>
>>
>> --
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG Free Edition.
>> Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.10.8/904 - Release Date:
>> 16/07/2007 17:42
>>
>>
>
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.476 / Virus Database:
> 269.10.8/904 - Release Date: 16/07/2007 17:42
>
>
|