Pan oedd y grwp yn trafod "Palmtop" anfonais y neges isod:
Yn anffodus, nid yw gliniadur yn batrwm y dylid ei ddilyn. 'Roeddwn i wedi
clywed Bruce yn beirniadu'r gair o'r blaen, felly gofynnais am eglurhad:
Mae "-iadur" naill ai'n gasgliad o rywbeth - meddyliwch am ddyddiadur,
geiriadur, blwyddiadur (?), Suliadur ayb - neu'n mynd efo rhyw ferf -
teipiadur, cyfrifiadur ayb. Nid yw gliniadur yn gasgliad o liniau ac nid
yw'n glinio.
Efallai nad oes modd disodli "gliniadur", ond dylid bod yn ofalus cyn ei
ddilyn. Ar ben hynny mae "llawiadur" yn swnio braidd yn anhyLAW i mi, ac
nid yw'r ystyr ynghlwm yn y gair. Ond yw hi'n beth da nad oes neb wedi
bedyddio'r ymbarel yn "lawiadur"?
Ann
----- Original Message -----
From: "Huw Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, July 06, 2007 10:42 AM
Subject: Re: handhelds
> Llawiadur?
>
> Huw Roberts
> Cyfieithydd / Translator
> 07957 182 087
> [log in to unmask]
> Dros Gymru'n gwlad!
>
>>>> GLENYS ROBERTS <[log in to unmask]> 03/07/2007 17:24 >>>
> Ydw i'n iawn mai teclynnau fel MP3s ac I-pods ydy'r rhain? A oes enw
> Cymraeg eto? Dyma'r
> cyd-destun -
> ... simultaneous hard-copy and digital publication available for handhelds
> and mobile phones ...
>
> Diolch y.ll.
>
> Glenys
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.10.1/888 - Release Date: 06/07/2007
> 06:36
>
>
|