Ac a yw'r ail linell yn euog o'r bai "rhy debyg"?
(Meddai fi sy’n hollol anobeithiol felly mi ddylwn i gadw fy ngheg ar gau…).
Huw Roberts
Cyfieithydd / Translator
07957 182 087
[log in to unmask]
Dros Gymru'n gwlad!
>>> Mary Jones <[log in to unmask]> 18/07/2007 10:38 >>>
Gwych. Ond ydy'r dyfyniad yn hollol gywir, Ann, gyda chwe sill yn y llinell
gynta ac 8 yn yr ail?
Mary
_____
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 17 July 2007 12:15
To: [log in to unmask]
Subject: Cyfieithu pennawdau - enghraifft penigamp
Cefais ganiatad ers talwm i gyhoeddi'r enghraifft hon o arfer da gan Ieuan
Wyn, ac 'rwyf newydd ddod ar ei thraws eto mewn pentwr o bapurau.
Yn y dosbarth cyfieithu, 'roedd gennym erthygl ynghylch dyfeisiadau
uwchsonig a oedd i fod i gadw llamhidyddion draw oddi wrth gwaith a fyddai'n
eu peryglu. Y pennawd Saesneg oedd "Ultrasound warning serves its
porpoise".
Cynnig Ieuan Wyn oedd "Lle mae hidio am y llamhidydd".
Wedyn, ychwanegodd:
"Tonfeydd main eu sain sydd
yn hidio am y llamhidydd"
Ann
--
This message has been scanned for viruses and
dangerous content by <http://www.saq.co.uk/> SpamAlizer, and is
believed to be clean.
|