Fues i'n 'neud hyn yn Nhyddewi ac mae'n rhaid nofio chydig, h.y., yn ôl at y
graig ar waelod y clogwyn ar ôl neidio oddi arni â bloedd i'r môr. Hwyl mewn
ti^m yw e, y gall unrhyw un ei wneud gydag arweinydd wrth law, yn hytrach na
champ i'w meistroli fel tonfyrddio neu hwylfyrddio.
Mae ystyr 'Arfordira' yn amlwg, os yw rhywun yn cyfieithu Coasteering yn
llythrennol yn eu pen gynta'. Beth am Glogwyna? Creiglamu?!
A fyddai disgrifiad mwy llac yn addas? e.e. 'Camp y Creigiau', 'Sgrialu ar
Glogwyni', 'Herio'r Heli' neu rywbeth llawer mwy gwreiddiol, yn ymwneud ag
ogofau a smyglwyr neu'r adar drycin...
Non
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 17, 2007 10:49 AM
Subject: Re: Coasteering
> Os yw'r gweithgaredd yn cynnwys nofio, mae'n debyg mai "arfor-" yw'r gair,
> ond os mai ar y clogwynni yn hytrach na'r mor ei hun ydyw, peidiwch ag
> anghofio'r "glannau".
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, July 17, 2007 10:08 AM
> Subject: Re: Coasteering
>
>
>>> gyfieithiad? Y mae "coasteering" yn cynnwys "...navigating around cliffs
>>> by
>>> climbing and swimming where necessary - jumping off cliffs etc.". A oes
>>> enw
>>> Cymraeg ar y fath weithgaredd (heblaw "gwallgofrwydd")? Ceir "arfordiro"
>>> am "coasting" yn yr archif, ond i fyd hwylio y perthyn hwnnw.
>>
>> Arfordira? (Mae gen i frith gof o weld hwn ar wefan wnes
>> i weithio arno i'r bwrdd croeso sbel yn ol).
>>
>>
>> --
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG Free Edition.
>> Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.10.8/904 - Release Date:
>> 16/07/2007 17:42
>>
>>
>
>
|