> Mae ystyr 'Arfordira' yn amlwg, os yw rhywun yn cyfieithu Coasteering yn
> llythrennol yn eu pen gynta'. Beth am Glogwyna? Creiglamu?!
Mae arfordira yn derm ymbarel am nifer o weithgareddau unigol
sy'n cael ei gwneud o fewn un 'taith'. Felly mae'n well cadw'r
disgrifiadau unigol ar wahan e.e. dringo clogwyni, nofio, cerdded
glannau.
> A fyddai disgrifiad mwy llac yn addas? e.e. 'Camp y Creigiau', 'Sgrialu ar
> Glogwyni', 'Herio'r Heli' neu rywbeth llawer mwy gwreiddiol, yn ymwneud ag
> ogofau a smyglwyr neu'r adar drycin...
Mae yna dudalen ar wefan cyngor Gwynedd yn son am 'Her yr Arfordir'
sydd yn enw da ar gyfer sialens/cystadlaeuaeth ond yn amwys
fel disgrifiad o weithgaredd sydd a diffiniad penodol.
|