Gwelaf y trafodwyd pwnc "coasteering" yn 2001 a 2003, ond a gytunwyd ar
gyfieithiad? Y mae "coasteering" yn cynnwys "...navigating around cliffs by
climbing and swimming where necessary - jumping off cliffs etc.". A oes enw
Cymraeg ar y fath weithgaredd (heblaw "gwallgofrwydd")? Ceir "arfordiro"
am "coasting" yn yr archif, ond i fyd hwylio y perthyn hwnnw.
|