Ges i drafferth â rhyw feddalwedd ryw dro. Ffonio'r llinell gymorth. Rhywun yn ceisio datrys y
mater dros y ffôn ac yn methu. Galw ar y goruchwyliwr, hwnnw'n gwneud yr un peth ac yn methu.
Yna'n dweud 'We will have to escalate the complaint' ac yn trefnu i un o'u tîm technegol arbenigol
ffonio nôl.
Hynny yw, roedd y broblem yn cael ei phasio lan o'r sawl oedd yn ateb y llinell gymorth i'r
goruchwyliwr i'r aelod o'r tîm technegol.
Ond dw i ddim yn gwybod beth fyse'r swyddog yn ei wneud.
Dw i'n cofio mynd â'r plant i Gaerdydd pan oedden nhw'n fach. Roedd grisiau symudol yn dipyn o
nofelti ac, yn un o'r siopau, roedd 'na arwydd fawr:
Escalator - Esgaladur. Dyna ges i drwy'r penwythnos wedyn "Gawn ni fynd ar yr esgaladur?"
Swyddog esgaladu?
Na, dw inne ddim yn meddwl chwaith!
Fyse rhywbeth fel "Swyddog blaenoriaethu" yn cyfleu'r ystyr tybed?
Ar y we ceir: "Unresolved Complaints may be escalated (or 'upgraded') to a higher level in
accordance with the Complaint Escalation Guidelines;" - Beth am "Swyddog Uwchraddio
Problemau/Cwynion"?
|