Ann Corkett wrote:
>
> Erbyn hyn 'rwyf wedi casglu at ei gilydd y termau a drafodwyd yma, a
> rhai o'm gwaith fy hun ar y papurau eleni a llynedd, ynghyd ag ychydig o
> wefannau defnyddiol, a dyma nhw isod. Weithiau dim ond y Saesneg sydd
> yno, gan fod y papurau gwreiddiol wedi mynd yn ol erbyn hyn, ond efallai
> bydden nhw'n broc i feddwl rhywun arall. Mae'r sylwadau yn Saesneg, gan
> fy mod i'n anfon copi at yr asiantaeth. Cofiwch neges Sylvia, a
> pheidiwch a meddwl bod y "termau" Cymraeg i gyd yn dermau cynabyddedig -
> peidiwch a defnyddio'r rhestr i gyfieithu i'r Saesneg! Cofiwch hefyd,
> nad oes gen i bob amser gadarnhad bod y term Saesneg yn gyfieithiad
> cywir, dim ond ei fod ar gael yn y maes ac yn ymddangos yn debyg o ran
> geiriad a chyd-destun. Os mai dim ond cynnig ansicr yw cyfieithiad y
> term, dylid gwneud hynny'n glir.
>
> Pob hwyl,
>
> Ann
>
>
>
>
>
>
Diddorol iawn Ann. Un peth sylwais i yn eich sylwadau chi oedd.
The candidate occasionally uses the impersonal passive instead of the
> active third person (e.g. “ni welwyd y cyfranogwyr y rhestr” – “the
> participants the list were not seen”, instead of “ni welodd y
> cyfranogwyr y rhestr …” – the participants did not see the list”).
Fy mhrofiad i wrth gyfieithu gwaith myfyrwyr yn y brifysgol yw bod y
mwyafrif ohonynt yn defnyddio'r amhersonol yn lle ffurf gryno'r
gweithredol, yn enwedig yn y presennol. Wrth gyfieithu ar gyfer pobl
ifanc felly tybed a ddylem defnyddio'r amhersonol o gwbl erbyn hyn gan
nad ydynt i'w gweld yn ei ddeall yn iawn? Neu efallai fod hynny'n fwy o
reswm dros ei ddefnyddio er mwyn iddyn nhw weld y defnydd cywir ohono?
Rydw i'n ymwybodol nad ydyw hyn yn drafodaeth 'termau' fel y cyfryw
felly a allai rhywun fy atgoffa beth yw cyfeiriad y cylch trafod arall?
Yr un 'cyffredinol'? Mae gen i awydd eich holi chi Ann am eich profiad o
ddefnyddio meddalwedd adnabod llais. Mae gen i Dragon Naturally Speaking
8 adref ond yn meddwl newid i rywbeth arall.
Sylvia.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Uned Gyfieithu/Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|