Cofiwch hefyd am wefan Enwau Cymru
http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaucymru/ sydd hefyd yn cynnig gwasanaeth
ymateb i ymholwyr (mae ffurflen ymholi yn codi os nad yw'r enw yn y
gronfa ddata).
Mae'r ymholiadau yma yn cyrraedd Hywel Wyn yn y diwedd os nad yw'r
ymchwilwyr yn cael hyd i'r ateb cyn hynny, ac mae'r enwau lleoedd hyn yn
cael eu hychwanegu at y gronfa ddata er mwyn cael casgliad mwy cyflawn -
nid yw hyn yn digwydd gydag ymholiadau anffurfiol at unigolion.
Delyth
Ysgrifennodd Ann Corkett:
> Wedi anfon cyfeiriad e-bost HWO at Wyn,
>
> Ann
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Alwyn Evans <mailto:[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Sent:* Tuesday, June 26, 2007 11:05 PM
> *Subject:* Re: Enwau lleoedd ym Mwcle
>
> Pan oeddwn yn dysgu ym Mwcle ( sawl canrif yn ôl), chlywais i
> erioed enwau Cymraeg ar y rhain - mae'n rhaid cofio mai o Swydd
> Stafford a Chernyw y daeth y mwyafrif o'r trigolion a gyfrannodd
> at gymunedau gwahanol Bwcle - canolfan gwneud briciau, cloddio am
> lo, a gwneud potiau a chrochenwaith arall o'r 18ed ganrif ymlaen a
> fawr ddim Cymraeg yn agos i'r lle..
>
> Ond os byddai rhywun yn gwybod, Hywel Wyn Owen fyddai hwnnw -
> gwnaeth ei ddoethuriaeth ar enwau lefydd yn Sir y Fflint wrth
> gwrs- felly os oes gan rywun fodd o gysylltu i ofyn iddo, byddai'n
> clirio'r pwnc
>
> Alwyn
>
> ------------------------------------------------------------------------
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.476 / Virus Database: 269.9.8/869 - Release Date:
> 25/06/2007 17:32
>
--
Mae'r e-bost yma'n amodol ar delerau ac amodau ymwadiad e-bost Prifysgol
Cymru Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwadiad yma:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
This email is subject to the terms and conditions of the University of Wales,
Bangor email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here:
http://www.bangor.ac.uk/emaildisclaimer
|