Fe wnes i gyfieithu traethawd hir myfyriwr oedd yn dilyn cwrs gradd yn y Gyfraith ryw dro ac, fel
Magi, fy nhuedd oedd rhoi'r dehongliad gorau posibl. Os oedd amwysedd gwirioneddol, roeddwn i'n
nodi hynny, ond fel arall roeddwn i'n cyfieithu yn fy Saesneg gorau - hyd yn oed pan oedd yn
camsillafu teitlau llyfrau ac enwau pobl.
Weithiau, roeddwn i'n teimlo'n euog am wneud hynny ond wedyn, roeddwn i'n teimlo (neu o leia'n
gobeithio!) bod Saesneg y myfyriwr yn fwy graenus na'i Gymraeg a doeddwn i ddim am ei roi o dan
anfantais am ddewis sgrifennu'r traethawd yn y Gymraeg.
(Siwr ei fod yn gyfreithiwr porthiannus erbyn hyn diolch i fi!)
|