Dw i'n credu mai 'media products' yw'r term yn Saesneg - mae'n digwydd
mewn nifer o ddogfennau a dyma ddyfyniad o adroddiad gan Estyn ar
Goleg Menai:
In media, a good variety of source material, including Welsh films and
programmes,
are used to analyse ***media products*** and are a basis for
developing students' own
practical work. Bilingual teaching techniques are used well to reinforce student
learning in media sessions.
Yn astudiaethau'r cyfryngau, defnyddir amrywiaeth da o ddeunydd ffynhonnell, gan
gynnwys ffilmiau a Cymreig a Chymraeg, er mwyn dadansoddi ***cynnyrch
y cyfryngau,***
ac fe'u defnyddir fel sail ar gyfer datblygu gwaith ymarferol y
myfyrwyr. Defnyddir
technegau addysgu dwyieithog yn dda er mwyn atgyfnerthu dysgu myfyrwyr mewn
sesiynau'r cyfryngau.
Muiris
On 12/06/07, Gwenllian Mair Williams <[log in to unmask]> wrote:
> Yn gyntaf, ga' i ddiolch am y drafodaeth am safon yr iaith yn y papurau
> arholiad wythnos dwytha - mi fuodd yn help mawr i fy mharatoi i'n feddyliol
> ar gyfer y gwaith yma! Mae o fel trio cerdded drwy fwd ar brydiau!
>
> Oes na rywun arall allan yna sy'n cyfieithu papurau Cymdeithaseg ac wedi dod
> ar draws 'cynnyrch y cyfryngau'?
> O be wela i, mae o'n cael ei ddefnyddio ar gyfer output, ond hefyd ar gyfer
> cynnwys (neu os nad ydi'r ymgeisydd yn siwr pa air arall i'w ddefnyddio)
>
> Yn y Termiadur. mae output (=product) cynnyrch/cynhyrchion
>
> Os ydi o'n derm sy'n cael ei ddysgu i'r plant, ddylwn i roi 'output' bob tro
> y gwela i 'cynnyrch', hyd yn oed os nad ydi o i weld yn gwneud synnwyr?
>
> Diolch am unrhyw arweiniad.
> Gwenllian
|