Dy lith yn gamp - da was llawn ffydd! Rhaid i ti ddal at wneud hyn o hyd ac o hyd neu fe fydd hi'n o ddrwg ar bob un yn ein plith.
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of David Bullock
Sent: 08 June 2007 11:27
To: [log in to unmask]
Subject: Erthygl Dylan Iorwerth
I'r sawl sy heb weld y pwt yn Llais y Sais pa ddydd:
Mae Dyl Ior am i fwy o stwff gael ei ddweud heb i chi roi yr un gair hir yn eich llith. Mae modd gwneud hyn wrth gwrs, ond dyw hi ddim yn hawdd dweud dim lot sydd o iws heb ryw air bach neu ddau sydd â mwy nag un sill.
Os ca i ddweud mwy....
Caiff Dyl roi trei ar y gamp ei hun, ond fe fydd e'n siŵr o weld cyn hir fod yn rhaid i bob iaith dan haul gael hyn a hyn o le er mwyn rhoi gair sydd â mwy nag un sill lawr ar y pêj. Mewn iaith fel ein hiaith ni mae'n rhaid i ddyn weld nad oes modd i bob peth ym mhob darn o waith fod yn fyr o hyd ac o hyd. O dro i dro mae'n rhaid i ddyn gael gair sy'n fwy hir na hyn. (Neu fe aiff o'i go cyn i chi droi rownd.)
Bois bach roedd hi'n waith dweud hyd yn oed peth bach fel hyn heb air a mwy na dwy sill.
Nawr te, her i chi i gyd, bob un wan jac: oes dyn neu ferch yn eich plith a fydd fel fi yn dod o hyd i fodd i greu llith heb gael yr un gair sydd â mwy nag un sill, ys gwn i? Dewch, rhowch drei ar y peth. Yn fy marn i, chewch chi ddim lot o hwyl a fydd dim lot o bwynt i waith o'r fath gael ei ddarllen. Daro! Oes rhaid i eiriau mor anhepgor â 'darllen' fod mor hir dwedwch?!
David
Mae cronfa Ras Tŷ Hafan ar agor o hyd os hoffech chi helpu. http://www.justgiving.com/davidmbullock
My sponsorship page for Tŷ Hafan children's hospice is still open to new supporters.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Saunders, Tim
Anfonwyd/Sent: 08 June 2007 10:30
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Erthygl Dylan Iorwerth
'Western Mail' bwy ddiwrnod. Dipyn o sôn wedi bod amdani ar Radio Cymru ayyb, Dylan yn cael tshup laff (Cymraeg safonol ...?) am jargon gyfreithiol.
Tim
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Howard Huws
Sent: 08 June 2007 10:22
To: [log in to unmask]
Subject: Erthygl Dylan Iorwerth
Maddeuer f'anwybodaeth: ymhle mae'r erthygl? Yn "Golwg"?
|