Hynny yw, maen nhw wedi cael pymtheng mlynedd o addysg ac yn dal i fethu
sgrifennu'n iawn yn eu hiaith gyntaf.
Mae'n ddychrynllyd yn dydi?
Pwy sydd i fod i'w dysgu, meddet ti Magi? Wel i be dan ni'n eu hanfon nhw
i'r ysgol am yr holl flynyddoedd hyn te?
Geraint (grympi old man)
----- Original Message -----
From: <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, June 04, 2007 11:52 PM
Subject: Re: Defnydd o'r amhersonol yn hytrach na'r modd gweithredol
Yn hollol Ann. Efallai nad yw David wedi cael cyfle i weld natur y gwaith yr
ydym yn ei wneud! Mae'r ffaith bod yr iaith mor garbwl yn difetha'r neges -
mae'r plant druan wedi gwneud eu gorau i ddysgu'r deunydd - y maes llafur -
ond yn methu ei fynegi mewn modd a fyddai'n ddealladwy mewn adroddiad
proffesiynol yn nes ymlaen yn eu bywydau. Maent yn 17 / 18 oed ac wedi cael
addysg cyfrwng Cymraeg ers iddynt fod yn ddwy a hanner oed (mewn Cylch
Meithrin).
Pwy sydd i fod i'w dysgu i ysgrifennu yn weddol gywir - neu o leiaf yn
ddealladwy (a hynny heb hollti blew am bob treiglad a chenedl enw)? Dim ond
rhyw 3/4 blynedd arall o addysg ffurfiol sydd gan y creaduriaid ar ôl,
efallai. Anghofiwch ystyriaethau ieithyddol am funud - ai addysg yw troi
plant allan sy'n methu ysgrifennu brawddegau dealladwy ar ôl yr holl
flynyddoedd? A phlant lefel A yw'r rhain!
Magi ( y grumpy old woman - dwi'n mynd i fy ngwely o'r ffordd!)
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, June 04, 2007 6:32 PM
Subject: Re: Defnydd o'r amhersonol yn hytrach na'r modd gweithredol
Mewn ffordd, 'dyn ni'n son am bethau gwahanol. 'Dych chi, David, yn son am
beth ddylai cyfieithwyr yn ei wneud er mwyn sicrhau bod pobl ifainc yn
darllen eu gwaith, 'dw i'n son am yr hyn y dylid ei ddysgu i bobl ifainc.
Ond mae un peth ychwanaegol wedi fy nharo. 'Dyw hyn i gyd ddim yn gwestiwn
o ddysgu, neu beidio a dysgu, y ffurfiau amhersonol yn unig. Mae'r ffaith
bod y plant yn eu cymysgu a ffurf cryno'r gweithredol yn awgrymu nad yw
hwnnw wedi'i wreiddio chwaith.
Ann
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, June 04, 2007 5:01 PM
Subject: Defnydd o'r amhersonol yn hytrach na'r modd gweithredol
Yn ddelfrydol, fe hoffwn innau weld pob disgybl yn cael cyfle i ddysgu
llawer mwy am gystrawen (Cymraeg a Lladin!) ond pwnc i'r addysgwyr yw hynny
am wn i.
Rhaid i ni'r cyfieithwyr ymdopi â chenhedlaeth sy'n llawer llai sicr eu
Cymraeg nag yr hoffen ni iddyn nhw fod, ac os yw hepgor ffurfiau amhersonol
o dro i dro yn helpu i gadw ambell ddarllenydd rwy'n credu bod hynny'n bris
digon teg i'w dalu.
Ac os bydd ffurfiau amhersonol yn diflannu, rwy'n credu y bydd hynny'n
digwydd am fod yr iaith yn llwyddo i gyfleu'r un un ystyr mewn ffordd arall.
Hynny yw, os yw "Cafodd Wil ei weld", neu yn well byth "Gwelodd rhywun Wil",
yn gwneud y tro, fydd dim angen "Gwelwyd Wil".
David
Mae cronfa Ras Tŷ Hafan ar agor o hyd os hoffech chi helpu.
http://www.justgiving.com/davidmbullock
My sponsorship page for Tŷ Hafan children's hospice is still open to new
supporters.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
Anfonwyd/Sent: 04 June 2007 16:35
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Defnydd o'r amhersonol yn hytrach na'r modd gweithredol
H.y. "6. Defnyddiwch ferfau gweithredol i wneud eich gwaith yn fwy bywiog ac
uniongyrchol:
Dechreuodd y cyngor 50 o brojectau yn lle Dechreuwyd 50 o brojectau gan y
cyngor
7. Ceisiwch osgoi berfau amhersonol."
Ond nid yw'r PLANT yn medru dilyn y rheol 'na gan nad ydynt yn gwybod p'un
yw p'un!
Ydy'r berfau amhersonol i fod i ddiflannu, felly, achos os na ddysgir hwy yn
yr ysgol (o, gobeithio bod y gystrawen 'na'n iawn!) ni fydd neb yn eu dysgu
yn unman arall. 'Rwy'n dechrau cael yr argraff ei bod hi'n sarhad ceisio
dysgu dim byd i neb nad ydynt yn gyfarwydd ag o eisoes.
Ann
---- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, June 04, 2007 4:17 PM
Subject: Defnydd o'r amhersonol yn hytrach na'r modd gweithredol
Rhaid i ysgrifenwyr bwyso a mesur cyd-destun eu gwaith a'u cynulleidfa wrth
gwrs, a dewis ffurfiau priodol iddyn nhw. Ond mae'r rhan fwyaf o'r
dystiolaeth ysgrifenedig weles i dros y blynyddoedd o ysgolion fy mhlant i
yn awgrymu bod yr amhersonol yn fyd dirgel i'r mwyafrif o'r disgyblion a'r
athrawon hefyd.
Rwy'n eitha hoff felly o Reolau 6 a 7 yn rhestr Cymraeg Clir o'r "12 Rheol
wrth Ysgrifennu'n Glir" -
http://www.bangor.ac.uk/ar/cb/canllawiau_cc.php.cy?catid=&subid=3113
David
Mae cronfa Ras Ty Hafan ar agor o hyd os hoffech chi helpu.
http://www.justgiving.com/davidmbullock
My sponsorship page for Ty Hafan children's hospice is still open to new
supporters.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Saunders, Tim
Anfonwyd/Sent: 04 June 2007 15:06
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Defnydd o'r amhersonol yn hytrach na'r modd gweithredol
Dylid arfer yr amhersonol lle bynnag y barner yn briodol neu y teimler yn
ddiffuant fod angen hynny.
Tim
Tim Saunders
Cyfieithydd / Translator
Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council
Translation Unit
Ty Trevithick
Abercynon
Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ
Ffôn +44-(0)-1443-744000
Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o
angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn
gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os
derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn
dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n
gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu,
dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.
This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view
of Rhondda Cynon Taf Council.
The information contained in this communication is confidential. It may be
legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase
this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible
for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review,
dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of
[log in to unmask]
Sent: 04 June 2007 14:52
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Defnydd o'r amhersonol yn hytrach na'r modd gweithredol
Clywch! Clywch! Neges amserol iawn.
magi
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, June 04, 2007 12:38 PM
Subject: Re: Defnydd o'r amhersonol yn hytrach na'r modd gweithredol
Annwyl Sylvia,
'Rwy'n anfon copi o'r neges hon at [log in to unmask] hefyd.
(Ysgrifennaf ynghylch meddalwedd 'nabod llais dan bennawd arall yn nes
ymlaen).
Onid yw plant i ddysgu pethau fel hyn yn yr ysgolion, neu hyd yn oed eu
hamsugno o'u darllen? 'Rwyf wedi cael dadlau ynghylch hyn o'r blaen, a 'dw
i'n siwr bod llawer o bobl yn fy ngweld i fel delfrydwr, neu fel bod o oes
arall nad yw'n gwerthfawrogi'r sefyllfa yn ysgolion Cymry heddiw (a Bruce yn
fwy felly byth). Mae'n debyg y teimlaf ei bod hi'n annheg fy mod i wedi
treulio blynyddoedd o'm hoes yn ceisio mireinio fy Nghymraeg, dim ond i
ddarganfod bod hyn mor amherthnasol ag y byddai i ddyn oes y cerrig
ymfalchio yn ei dechneg gnapio fflint ar ol i bawb arall symud ymlaen at
ddefnyddio efydd.
Er hyn, caf yr argraff wrth ddysgu Cymraeg i oedolion bod pobl yn *hoffi*
cael gwybod y rheolau. Nid yw rheolau gramadeg yn eich caethiwio, ond eich
rhyddhau! Mae'n amlwg o waith bron pawb o'r plant 'ma, nid yn unig nad
ydynt yn gwybod pryd i roi "ei + treiglad meddal", "ei + treiglad trwynol"
neu "eu", ond 'does ganddynt ddim syniad o'r rheolau. Dydyn nhw ddim yn
*gwneud camgymeriadau* fel y cyfryw, ond taflu'r naill air neu'r llall i
mewn ar fenter, gan wybod bod 'na ryw wahaniaeth, ond heb wybod beth. Oni
fydden nhw eu hunain yn hapusach o gael gwybod be' maen nhw'n wneud - a chan
gweld sut mae defnyddio'r gair iawn yn ei le yn rhoi rhagor o wybodaeth
fanwl ac yn osgoi dryswch.
Gwn fod rhaid bod yn ofalus iawn ynghylch hyn, oherwydd ein cyfrifoldeb i'r
cleientiaid uniongyrchol ac anuniongyrchol, ond teimlaf ein bod ni mewn
sefyllfa da iawn i roi gwybod i'r rhai sy'n ymwneud ag addysg ynghylch lle
mae anghenion rhagor o gymorth ar blant. A oes 'na rywun gyda throed yn y
maes hwnnw'n medru awgrymu beth y gallem ei wneud?
Ann
----- Original Message -----
From: "Jones,Sylvia Prys" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, June 04, 2007 11:42 AM
Subject: Re: Defnydd o'r amhersonol yn hytrach na'r modd gweithredol
Ann Corkett wrote:
>
> Erbyn hyn 'rwyf wedi casglu at ei gilydd y termau a drafodwyd yma, a rhai
> o'm gwaith fy hun ar y papurau eleni a llynedd, ynghyd ag ychydig o
> wefannau defnyddiol, a dyma nhw isod. Weithiau dim ond y Saesneg sydd
> yno, gan fod y papurau gwreiddiol wedi mynd yn ol erbyn hyn, ond efallai
> bydden nhw'n broc i feddwl rhywun arall. Mae'r sylwadau yn Saesneg, gan
> fy mod i'n anfon copi at yr asiantaeth. Cofiwch neges Sylvia, a pheidiwch
> a meddwl bod y "termau" Cymraeg i gyd yn dermau cynabyddedig - peidiwch a
> defnyddio'r rhestr i gyfieithu i'r Saesneg! Cofiwch hefyd, nad oes gen i
> bob amser gadarnhad bod y term Saesneg yn gyfieithiad cywir, dim ond ei
> fod ar gael yn y maes ac yn ymddangos yn debyg o ran geiriad a
> chyd-destun. Os mai dim ond cynnig ansicr yw cyfieithiad y term, dylid
> gwneud hynny'n glir.
> Pob hwyl,
> Ann
>
>
>
Diddorol iawn Ann. Un peth sylwais i yn eich sylwadau chi oedd.
The candidate occasionally uses the impersonal passive instead of the
> active third person (e.g. “ni welwyd y cyfranogwyr y rhestr” – “the
> participants the list were not seen”, instead of “ni welodd y
> cyfranogwyr y rhestr …” – the participants did not see the list”).
Fy mhrofiad i wrth gyfieithu gwaith myfyrwyr yn y brifysgol yw bod y
mwyafrif ohonynt yn defnyddio'r amhersonol yn lle ffurf gryno'r
gweithredol, yn enwedig yn y presennol. Wrth gyfieithu ar gyfer pobl
ifanc felly tybed a ddylem defnyddio'r amhersonol o gwbl erbyn hyn gan
nad ydynt i'w gweld yn ei ddeall yn iawn? Neu efallai fod hynny'n fwy o
reswm dros ei ddefnyddio er mwyn iddyn nhw weld y defnydd cywir ohono?
Rydw i'n ymwybodol nad ydyw hyn yn drafodaeth 'termau' fel y cyfryw
felly a allai rhywun fy atgoffa beth yw cyfeiriad y cylch trafod arall?
Yr un 'cyffredinol'? Mae gen i awydd eich holi chi Ann am eich profiad o
ddefnyddio meddalwedd adnabod llais. Mae gen i Dragon Naturally Speaking
8 adref ond yn meddwl newid i rywbeth arall.
Sylvia.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Uned Gyfieithu/Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance
Office. www.bangor.ac.uk
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.472 / Virus Database: 269.8.7/830 - Release Date: 03/06/2007
12:47
__________ NOD32 2306 (20070604) Information __________
This message was checked by NOD32 antivirus system.
http://www.eset.com
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.472 / Virus Database: 269.8.7/830 - Release Date: 03/06/2007
12:47
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.472 / Virus Database: 269.8.7/830 - Release Date: 03/06/2007
12:47
.
__________ NOD32 2308 (20070604) Information __________
This message was checked by NOD32 antivirus system.
http://www.eset.com
|