Pan oeddwn i'n cyfieithu papurau arholiadau prifysgol (Celf) i Wil
Petherbridge, cefais fy siarsio ganddo i roi'r mantais i'r ymgeiswyr gan eu
bod eisoes dan anfantais o ysgrifennu yn y Gymraeg ynghylch pwnc lle roedd
rhan fwya'r dysgu yn Saesneg. 'Dw i ddim yn siwr bod yr un cyfiawnhad yma,
a 'dw i ddim yn meddwl fy mod i bob amser wedi bod mor garedig a Sian.
Gyda llaw, cawsom bapurau Cymraeg A Saesneg yn ein pecynnau un tro - i osgoi
peryglon gwahanu papurau o'r un ganolfan a gorfod eu rhoi nhw'n ol at ei
gilydd ar ddiwedd y broses. 'Roedd yn help o ran termau (gan fod cymaint o
blant yn ceisio llenwi'r papur trwy ailadrodd y cwestiwn ar bob cyfle), ond
hefyd yn gysur - mewn ffordd - i weld nad oedd safon Saesneg y plant oedd
wedi ateb yn Saesneg fawr gwell na Chymraeg y rhai oedd wedi ateb yn
Gymraeg.
Ann
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, June 12, 2007 11:36 PM
Subject: Re: Gwirio papurau arholiad
Fe wnes i gyfieithu traethawd hir myfyriwr oedd yn dilyn cwrs gradd yn y
Gyfraith ryw dro ac, fel
Magi, fy nhuedd oedd rhoi'r dehongliad gorau posibl. Os oedd amwysedd
gwirioneddol, roeddwn i'n
nodi hynny, ond fel arall roeddwn i'n cyfieithu yn fy Saesneg gorau - hyd yn
oed pan oedd yn
camsillafu teitlau llyfrau ac enwau pobl.
Weithiau, roeddwn i'n teimlo'n euog am wneud hynny ond wedyn, roeddwn i'n
teimlo (neu o leia'n
gobeithio!) bod Saesneg y myfyriwr yn fwy graenus na'i Gymraeg a doeddwn i
ddim am ei roi o dan
anfantais am ddewis sgrifennu'r traethawd yn y Gymraeg.
(Siwr ei fod yn gyfreithiwr porthiannus erbyn hyn diolch i fi!)
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.472 / Virus Database: 269.8.13/844 - Release Date: 11/06/2007
17:10
|