Mae 'eisteddfod' yn eithaf anodd, gan fod 'eddf' yng nghanol y gair, a does
dim modd colli'r elfen honno drwy fyrhau'r gair chwaith
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Huw Roberts
Sent: 18 May 2007 14:06
To: [log in to unmask]
Subject: Bysedd yn barod...
Annwyl gyfeillion,
Cais anarferol.
Pa air sylweddol (hynny yw, nid *a* neu *hi* neu *tu* ac yn y blaen) sydd
â*r canran
uchaf o lythrennau ar yr un rhif ar ffôn? Hynny yw, beth yw*r gair anoddaf
i*w anfon fel neges
destun o ffôn mudol, gan fod angen oedi cyn symud ymlaen i*r llythyren
nesaf?
Er enghraifft, mae *wythfed* yn anodd oherwydd bod *w* ac *y* mewn cyfres ac
mae*r
ddwy ar y botwm 9; wedyn mae *f* ac *e* a *d* mewn cyfres ac mae*r tair ar y
botwm 3.
Felly mae*n anodd anfon pump o*r saith llythyren yn y gair *wythfed* ar
neges destun. (Yn y
cyd-destun yma, mae*n rhaid ystyried *t* a *h* yn y gair *wythfed* yn
llythrennau ar
wahân).
Enghraifft Saesneg yw *needed*, oherwydd bod *d* ac *e* ar fotwm 3.
Estynnwch am eich ffonau, a diolch o flaen llaw*
Huw Roberts
Cyfieithydd / Translator
(029) 2078 1432
07957 182 087
[log in to unmask]
Dros Gymru'n gwlad!
|