Dyma ailgodi'r drafodaeth hon gan i mi gael ateb yr Athro Peter Wynn Thomas
y bore 'ma wedi i'w ateb gwreiddiol fynd ar goll i rywle yn y gofod digidol.
Roeddwn i wedi dyfynnu'r sylwadau a gawai eu cyfrannu i'r drafodaeth ...
"O ddarllen yr amryfal sylwadau isod gan dy gydweithwyr, rwy'n tybied y
gallai newid fod ar droed nad oeddwn i'n ymwybodol ohono - neu efallai mai'r
hyn sydd yma yw ffrwyth gor-feddwl a cheisio rhesymoli ar ran ambell un.
Bydd yn rhaid casglu enghreifftiau er mwyn cael ceisio dirnad y patrwm
cyffredinol ehangach. Yn y cyfamser, ni allaf ond dyfynnu T.J. Morgan,
ieithydd yr oedd ei reddf yn gwbl sicr, er bod dros hanner canrif ers iddo
nodi (TC t.261):
Fel adferf nid yw mwy, mwyach yn treiglo byth.
Yna dywed (ar yr un ddalen):
"Peth cymharol ddiweddar, mae'n debyg, yw'r priod-ddull 'mwy neu lai', i
gyfateb i'r Saesneg 'more or less'. ... gwneir i mwy dreiglo yn fynych mewn
cysylltiadau tebyg i hyn, 'rhyw ddwy fil, fwy neu lai...' Y mae treiglo mwy
fel hyn yn swnio'n annaturiol, a chan fod tuedd mor gref i mwy wrthsefyll
treiglad, byddai'n well cadw cysefin 'mwy neu lai' yn sefydlog."
Mae'r sylw olaf, wrth gwrs, yn normaidd, ond wrth lunio cyfieithiadau
swyddogol mae'n debyg gen i fod yn rhaid wrth ryw linyn mesur. Pe gofynnid i
mi, felly, ochr T.J.M. a gymerwn.
O safbwynt personol, a chyn imi ddarllen y sylwadau sy'n dilyn eiddo Ann
Wiliam, 'pleidleisio mwy nag unwaith' oedd fy newis i.
Croeso iti gysylltu eto os nad yw'r ateb uchod yn bodloni. Ac mae pob croeso
iti hefyd anfon y sylwadau at dy gydweithwyr - ar yr amod na fyddant yn fy
osgoi ar faes yr Eisteddfod!
Hwyl a chofion
Peter
Gan mai Peter fydd yn traddodi Darlith Goffa Hedley Gibbard i Gymdeithas
Cyfieithwyr Cymru yn Steddfod y Fflint, dewch i wrando arno yn hytrach na'i
osgoi!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Ann Wiliam" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, March 23, 2007 1:31 PM
Subject: Re: ATB: mwy nag/fwy nag
Diolch i'r ddwy ohonoch. Dyna oeddwn innau'n feddwl hefyd ond roeddwn yn
cael trafferth i berswadio'r cwsmer gan mai "pleidlesio mwy nag unwaith"
sydd yn yr Offerynnau Statudol diweddaraf.
Ann
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.17/730 - Release Date: 22/03/2007
07:44
|