Mae'r gamp yn cael ei chwarae yn y coleg 'ma - ac mae arna i ofan taw
"doj-bêl" neu "dodj-bêl" a ddefnyddiais, yn hollol ddifflach a thila, yn y
diwedd. Do'n i ddim yn gallu gweld 'pêl osgoi' yn ennill ei blwy yn y
gampfa, ysywaeth!
Rwyf yn credu ei bod hi'n bwysig iawn inni beidio â gadael pethau yn Saesneg
- hyd yn oed os nad yw hynny'n golygu dim mwy na thrawslythrennu i orgraff y
Gymraeg. [golff, rygbi, tenis, criced] Dyna beth a wneid yn naturiol dros y
ganrifoedd i filoedd o eiriau Saesneg. Trwy orfodi gwisg Gymraeg am air
Saesneg, mae'n debycach o ymgartrefu'n gyfforddus (lluosog 'dodj-beli'?!) ac
hyd yn oed esgor ar eiriau newydd.
Wedi gwneud hynny, os oes gan rywun awgrym bachog a phert, fe fyddwn i'n
hapus iawn cael gwared â'r ddodj-bêl 'ma!
Matthew
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Jones,Sylvia
Prys
Anfonwyd/Sent: 01 March 2007 11:32
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: dodgeball
Rhywun newydd ffonio yma o'r Gampfa a gofyn beth yw Dodgeball yn
Gymraeg. I'r rhai ohonoch sydd ddim wedi gweld y ffilm ;-) mae'n gêm
sy'n cael ei chwarae dipyn yn yr Unol Daleithiau, fel arfer am hwyl. Nod
y chwarae yw ceisio taro aelod o'r tim arall efo pêl fawr ysgafn -
unwaith bydd y bêl wedi eich taro rydych chi 'allan'. Felly nod y gêm yw
osgoi'r bêl.
Fy ymateb cyntaf oedd dweud wrth y ddynes am adael yr enw yn Saesneg ond
rhag ofn bod yna gyfieithiad Cymraeg cydnabyddedig dwi'n gofyn am gyngor.
Diolch.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Uned Gyfieithu/Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|