mae na foyer yn Y Drenewydd a foyer yw'r cyfeiriadau yn y llenyddiaeth
Saesneg. Wel ie, wrth gwrs, medde chi, beth arall fyddech chi'n ei
ddisgwyl - ond foyer yn hytrach na centre neu sheltered accomodation neu
support centre dwi'n feddwl....
Byddai cartref neu noddfa yn well nag aelwyd, efallai, i geisio cyfleu
natur yr elfennau'r gwasanaeth a gynigir mewn lle o'r fath.... ....cartref
cyntaf, dwn i ddim - dwi ddim yn greadigol iawn a dwi'n flin beth bynnag
wedi bod yn cyfieithu adroddiad sych ers oriau a dyddiau a wythnosau......!
Yr unig Noddfa yr ydw i yn gyfarwydd â hi yw honno yng Nghaernafon ac nid
oes crefydd yn agos at foyer i mi wybod!! Mae cymaint o'r pethau ma pan
ddechreuwch chi feddwl - sheltered, half way, support, residential,
nursing, hostel, ac yn y blaen - mae foyer yn llaw fer handi!
magi
----- Original Message -----
From: "Claire Richards" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, March 09, 2007 9:19 AM
Subject: Re: Foyer/s
Diolch i bawb am ateb.
Gan fod y gair 'aelwyd' yn cael ei ddefnyddio gan yr Urdd ers blynyddoedd,
roeddwn i'n petruso ei ddefnyddio ar gyfer 'foyer'.
Byddwn ni'n cadw at y gair Ffrangeg, dwi'n meddwl, yn enwedig o gofio mai
cysyniad o Ffrainc yw hwn yn wreiddiol, ac o gofio tystiolaeth Magi bod
'foyer' eisoes yn cael ei ddefnyddio felly.
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Pawl
Sent: 08 March 2007 00:00
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Foyer/s
Ond nid cyntedd ydy foyer mewn Ffrangeg ond 'aelwyd'!
Pawl.
Paul W. Birt, PhD
Chaire d'Études celtiques,
Université d'Ottawa,
70, rue Laurier,(131)
Ottawa,
K1N 6N5
Ontario
Canada
www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
Tél. (613)562-5800(3767)
Téléc/Fax (613)562-5138.
-----Original Message-----
From: David Bullock <[log in to unmask]>
Date: Thu, 8 Mar 2007 17:39:19
To:[log in to unmask]
Subject: Re: Foyer/s
Mae Cofnod y Cynulliad wedi defnyddio 'cyntedd' i gyfateb i 'foyer' yn y
cyd-destun yma, e.e.
http://www.cymru.gov.uk/cms/1/ChamberSession/38034064000E165A000034F7000000
00/3CBD89730001F5AF0000170C00000000.html
Mae'r un gair gan Lywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn "Costau a Manteision
y Rhaglen Cefnogi Pobl" sydd ar gael yn
http://www.ecoliinquirywales.org.uk/docrepos/40382/sjr/research/supportpeop
lew?lang=cy
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.8/714 - Release Date: 08/03/2007
10:58
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.8/714 - Release Date: 08/03/2007
10:58
__________ NOD32 2104 (20070308) Information __________
This message was checked by NOD32 antivirus system.
http://www.eset.com
|