Geraint L?vgreen:
> Oes yna gyfieithiad wedi ennill ei blwyf am "instant messaging/messenger"?
> Mae gen i deimlad bod, ond fedra i ddim meddwl heddiw!
Dwi ddim yn meddwl fod dim byd wedi ennill ei blwyf
(yn bennaf am fod pobl yn defnyddio enw brand yn hytrach
na enw'r dechnoleg.. gweler 'gwglo' nid 'chwilio'r we').
Ond mae 'negesu chwim' wedi ei ddefnyddio mewn rhai llefydd
a 'negesu cyflym' mewn mannau eraill (er dyw'r naill neu'r
llall yn cyfleu'r syniad cywir - mae danfon neges drwy ebost yn
gallu bod yn gyflym hefyd.
|