Sylvia,
Allffynonellu: penderfyniad strategol, anodd ei ddiddymu, yn ymwneud ag un
o gadwyn o weithgareddau sy’n angenrheidiol i alluogi'r cwmni ddarparu ei
gynnyrch arbennig (e.e. technoleg gwybodaeth, datblygu cyffuriau yn y
clinic). Fel rheol mae rhesymau ariannol tymor hir dros y penderfyniad,
neu mae angen culhau ffocws y cwmni ar beth bynnag mae'n ei wneud orau.
Bydd y rhai sy'n cymryd y gwaith drosodd yn gyfrifol am reoli'r
gweithgaredd o ddydd i ddydd. Llawer o newid, rhincian dannedd, a phobl yn
colli’u jobsus efallai.
Rhoi gwaith allan (farming work out?): penderfyniad lle mae’r ateb yn
amlwg, ad hoc, tymor byr, hawdd ei newid.
Dafydd
On Wed, 21 Mar 2007 09:53:26 +0000, Jones,Sylvia Prys
<[log in to unmask]> wrote:
>Dafydd Lewis wrote:
>
>> Er enghraifft, mewn esiampl nad yw'n eithafol o gwbl, os yw cwmni'n
>> darganfod, datblygu a chynhyrchu cyffuriau, gellid dadlau y dylid
>> allanoli'r gwaith o'u datblygu (e.e. eu profi mewn cleifion) i gwmni
>> arall, am resymau strategol ac ariannol. Mae hyn yn beth gwahanol iawn
o'i
>> gymharu ag uned cyfieithu'r cwmni yn rhoi gwaith cyfieithu i'r Gymraeg
>> allan i rywun sy'n arbenigo mewn cyfieithu i'r Gymraeg. Nid allanoli
>> fyddai hynny - mae'r rhesymegu'n fwy eglur o lawer.
>> Wrth gwrs, gellid dadlau mae mater o radd yn unig yw'r gwahaniaeth, ond
>> dyna'r gwahaniaeth rhwng 'ewinrhew' a 'llosg eira' hefyd.
>>
>> Dafydd
>
>
>Dydw i ddim yn gallu canfod y gwahaniaeth rhwng y ddwy enghraifft yma.
>Allech chi egluro ymhellach Dafydd?
>
>Diolch
>
>Sylvia.
>
>
>--
>Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
>
>Uned Gyfieithu/Translation Unit
>Canolfan Bedwyr
>Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor
>
>--
>Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
>gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
>gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
>neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
>unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
>rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
>gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
>hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
>Prifysgol Cymru, Bangor. Nid yw Prifysgol Cymru, Bangor yn gwarantu
>bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
>100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
>nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
>rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
>Cyllid Prifysgol Cymru, Bangor. www.bangor.ac.uk
>
>This email and any attachments may contain confidential material and
>is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
>received this email in error, please notify the sender immediately
>and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
>must not use, retain or disclose any information contained in this
>email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
>not necessarily represent those of the University of Wales, Bangor.
>The University of Wales, Bangor does not guarantee that this email or
>any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
>expressly stated in the body of the text of the email, this email is
>not intended to form a binding contract - a list of authorised
>signatories is available from the University of Wales, Bangor Finance
>Office. www.bangor.ac.uk
>========================================================================
|