Mae dwy haen o iaith yn bod eisoes, ac mae hefyd gamddefnyddio termau
(megis llosg eira ac ewinrhew - gweler 'frostbite' yn nhrafodaeth y mis
hwn).
Ond gweler http://en.wikipedia.org/wiki/Outsourcing am drafodaeth syml
o 'outsourcing'. Mae ystyr arbennig i'r term, mae'n wahanol i 'roi gwaith
allan' sy'n syniad mwy cyffredinol, ac mae'n bosib trafod y pwnc fel
opsiwn strategol a gweithio allan y costau a'r adenillion o'u cymharu â
gwneud yr un gwaith y tu fewn i'r cwmni. Yn wir, mae na ffasiwn beth
a'r 'National Outsourcing Association'.
Er enghraifft, mewn esiampl nad yw'n eithafol o gwbl, os yw cwmni'n
darganfod, datblygu a chynhyrchu cyffuriau, gellid dadlau y dylid
allanoli'r gwaith o'u datblygu (e.e. eu profi mewn cleifion) i gwmni
arall, am resymau strategol ac ariannol. Mae hyn yn beth gwahanol iawn o'i
gymharu ag uned cyfieithu'r cwmni yn rhoi gwaith cyfieithu i'r Gymraeg
allan i rywun sy'n arbenigo mewn cyfieithu i'r Gymraeg. Nid allanoli
fyddai hynny - mae'r rhesymegu'n fwy eglur o lawer.
Wrth gwrs, gellid dadlau mae mater o radd yn unig yw'r gwahaniaeth, ond
dyna'r gwahaniaeth rhwng 'ewinrhew' a 'llosg eira' hefyd.
Dafydd
On Tue, 20 Mar 2007 16:05:48 -0000, Megan Hughes-Tomos
<[log in to unmask]> wrote:
>Ond a yw'n syniad da creu dwy haen o iaith? Onid creu cylchoedd cyfyng yn
>ddi-angen yw hynny? Does dim angen bod yn arbenigwr na gwybodaeth
arbenigol
>i drafod "outsourcing", felly wela i ddim pam bod angen creu gair
>"technegol".
>
>Megan
>
>Megan Hughes Tomos
>Prif Weithredwr/Chief Executive
>Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (The Association of Welsh Translators and
>Interpreters)
>01248 371839
>
>
>-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Berwyn
Jones
>Anfonwyd/Sent: 20 March 2007 15:59
>At/To: [log in to unmask]
>Pwnc/Subject: Re: ATB: outsourcing
>
>Os cofia i'n iawn - ac mae'n ddigon posib y gwnaiff Delyth fy nghywiro -
>roedd pargraff neu ddau yn Rhagair yr hen Dermiadur Ysgol a soniai am y
>gwahaniaeth rhwng gair neu ymadrodd y gellid ei ddefnyddio mewn sgwrs neu
>drafodaeth, a therm y gellid ei ddefnyddio mewn cyd-destun mwy ffurfiol
(a
>jargonllyd). Mater o gyd-destun yw hyn yn y bôn, felly.
>
>Weithiau, mae'n werth darllen y rhagair i eiriadur!
>
>Berwyn
>
>----- Original Message -----
>From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Tuesday, March 20, 2007 3:37 PM
>Subject: Re: ATB: outsourcing
>
>
>Rhaid imi gydweld, wrth gwrs, ac mae'n dibynnu ar y cyd-destun prun
>fyddai'n addas. Ond rwy'n dal i deimlo fod 'allanoli' ac 'allffynonellu'
>yn fwy sbesiffig, ac oherwydd hynny'n fwy dymunol - gall 'rhoi gwaith
>allan' olygu pethau eraill. Ac onid oes angen termau sbesiffig? Ai gwell
>yw dweud 'rhoi cynnyrch am arian' yn hytrach na 'gwerthu'?
>
>Wnes i ddim meddwl am y peth o'r blaen ond efallai bod lle i gynnig
>dannedd gosod am ddim gyda rhai cyfieithiadau? :-)
>
>Dafydd
>
>
>On Tue, 20 Mar 2007 10:42:16 -0000, Megan Hughes-Tomos
><[log in to unmask]> wrote:
>
>>Mae'n siwr mai mater o ymagweddu ydi o. Os ydech chi eisiau ymagweddu
>fel y
>>byd busnes fel y down ar ei draws drwy'r Saesneg, mae'n siwr, bod
>>"allffynonellu"'n fwy derbyniol gennych ond alla i ddychymygu y byddai
>>ambell i gynghorydd yn poeni am ei ddannedd gosod wrth geisio dweud y
gair
>>ar lawr siambr Cyngor Gwynedd lle ceir trafodaeth yn Gymraeg.
>Byddai "rhoi
>>gwaith allan" yn llawer cliriach i bawb gan gynnwys unrhyw aelod o'r
>cyhoedd
>>a fyddai wedi defnyddio ei hawl ddemocrataidd i eistedd yn y cefn.
>>
>>Rydym hefyd yn llawer rhy barod i geisio bathu term ar sail y Saesneg yn
>>unig. Tybed beth a ddywedir yn Ffrangeg neu Almaeneg?
>>
>>Megan Hughes Tomos
>>Prif Weithredwr/Chief Executive
>>Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (The Association of Welsh Translators and
>>Interpreters)
>>01248 371839
>>
>>
>>-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>>Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>>vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann
Corkett
>>Anfonwyd/Sent: 20 March 2007 10:19
>>At/To: [log in to unmask]
>>Pwnc/Subject: Re: outsourcing
>>
>>Ond mae rhaid bod 'na bethau naturiol a fyddai'n gweithio:
>>strategaeth [ar gyfer] gwaith allanol / strategaeth ynghylch contractwyr
>>allanol?Ann
>>
>>----- Original Message -----
>>From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
>>To: <[log in to unmask]>
>>Sent: Tuesday, March 20, 2007 1:01 AM
>>Subject: Re: outsourcing
>>
>>
>>Mae na elfen o 'jargon' yn y gair 'outsource' yng nghyd-destun busnes.
Hwn
>>yw'r gair a ddefnyddir am y math yma o beth.
>>
>>Os felly, tybed a ddylid derbyn bod angen gair yn y Gymraeg all ddod
>>yn 'jargon' hefyd. Os byddech yn sgrifennu llyfr busnes, beth fyddech
>>chi'n galw'r bennod ar 'outsourcing strategy'? Mi fyddai 'strategaeth
>>allanoli' neu 'strategaeth allffynonellu' yn gweithio - ond
>>nid 'strategaeth rhoi gwaith allan'.
>>
>>'Hwnna ydi o'.
>>Dafydd
>>
>>
>>--
>>No virus found in this incoming message.
>>Checked by AVG Free Edition.
>>Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.15/728 - Release Date:
>20/03/2007
>>08:07
>>=========================================================================
>
>
>
>--
>No virus found in this incoming message.
>Checked by AVG Free Edition.
>Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.14/727 - Release Date:
19/03/2007
>11:49
>========================================================================
|