Dyw e ddim o reidrwydd yn golygu bod 'pawb ar ei ennill'. Onid yw'n
meddwl bod y person yn ennill beth bynnag sy'n digwydd? A fyddai
rhywbeth ar lun 'ar X ennill bob ffordd' gyda X yn sefyll am y
rhagenw, neu hyd yn oed 'ennill beth bynnag sy'n digwydd" e.e.
"If John buys the book I'll get the money back, if he doesn't Peter
will buy it, so it's a win win situation for me"
"Os bydd John yn prynu'r llyfr, byddaf i'n cael yr arian yn ol, os na
fydd, bydd Peter yn ei brynu, felly dw i ar fy ennill beth bynnag sy'n
digwydd"
Muiris
On 16/02/07, Eirian Youngman <[log in to unmask]> wrote:
> Sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill/yn elwa?
>
> Eirian
> ----- Original Message -----
> From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, February 16, 2007 3:22 PM
> Subject: win/win situation
>
>
> > Unrhyw awgrymiadau plis?
> >
> > Catrin
> >
> >
>
|